Mae’r daith gylchol hon yn 3¼ milltir/ 5 cilometr o hyd a dylai gymryd rhwng 2½ a 3 awr i’w chwblhau. Oherwydd bod nifer o lwybrau ar gael yn yr ardal hon, mae’r marcwyr ffordd ar gyfer y daith gerdded gylchol hon yn cael nodi â ‘llwybr a hyrwyddir’, gyda bandiau coch a chyfeirnod cronolegol. Byddwch yn ymwybodol bod y llwybr yn cynnwys rhai darnau serth a rhai cymedrol, nad ydynt efallai’n addas i bob defnyddiwr.
Ceir lluniaeth, toiledau a chyfleusterau parcio gerllaw ym mhentref hyfryd Tongwynlais.
Hefyd mae pwynt mynediad amgen ar Allt Rhiwbeina, yn agos at bont traffordd yr M4, yn cynnwys man ‘tynnu i mewn’ bychan gyda lle i 2-3 o geir.
Y coetir cyntaf ar y daith gerdded yw Coedwig Greenmeadow. Mae hon yn ardal o goetir hynafol lled-naturiol a ddominyddir gan goed Derw a Bedw gyda gorchudd daear nodweddiadol o flodau coetir, gan gynnwys y Rhedyn Cennog Gwryw, Crafanc Brân Eurwallt, Llysiau’r Neidr Cyffredin, Derwen Coedfrwyn Fawr a Choed Cyll yn tyfu yn rhan isaf y coetir, gyda chymysgedd nodweddiadol o flodau coetir, gan gynnwys Blodau’r Gwynt a Gludlys Coch.
Ailblannwyd yr ardal uchaf gyda Ffawydd, ac yn y gwanwyn, gellir gweld arddangosfa ysblennydd o garpedi Clychau’r Gog. Ar ymyl ogleddol y daith gerdded mae ail ardal o goetir sy’n rhan o Goed-y-Wenallt, safle 44 hectar sy’n eiddo i Gyngor Caerdydd ac a reolir ganddo. Mae’n goetir hynafol sy’n golygu ei fod wedi bod yno ers o leiaf 1600 OC ac wedi ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) i gydnabod ei werth i fywyd gwyllt.
Mae’r coetir hwn yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau adar. Yn y gwanwyn, gellir clywed y Gnocell Fraith yn drymio ar goed marw. Gwelir teloriaid y cnau yn dringo i fyny ac i lawr bonion coed. Weithiau clywir Cigfrain a Boncathod uwchben. Yn ystod yr hydref gellir gweld sawl Sgrech y Coed lliwgar wrth iddynt ymgasglu a chladdu eu mes yn barod ar gyfer y gaeaf. Cofnodwyd mamaliaid nosol gan gynnwys Pathewod a Moch Daear yn y ddau goetir sydd ar y daith. Mae’r Pathew yn adeiladu nyth o siâp pêl gan ddefnyddio stribedi o risgl Gwyddfid, tra bod moch daear yn sgwrio llawr y goedwig am fwydod a bwyd arall sydd ar gael.
Mae gloÿnnod byw brith y coed yn gyffredin i goetiroedd a gellir eu gweld rhwng mis Ebrill a mis Hydref yn arbennig wrth iddynt fwydo o’r mieri. Ceir llawer o rywogaethau o ffyngau yn y coetir. Mae ffyngau yn hanfodol ar gyfer bwyd, cynefinoedd a darparu ailgylchu maeth yn ôl i’r ddaear.
Cynigia’r glaswelltiroedd ar ymylon y rhedyn fannau delfrydol ar gyfer gwiberod sy’n torheulo – mae gan y rhain batrwm igam-ogam prydferth ar hyd eu cefnau. Dyma ein hunig ymlusgiad gwenwynig, ac mae’n un a gaiff ei gamddeall yn aml. Gellir gweld y wiber o bryd i’w gilydd yn torheulo yn yr haul y bore, ac mae’n annhebygol iawn o ymosod oni bai bod rhywun yn tarfu arni.
Yng nghoedwig Coed-y-Wenallt, gellir gweld olion bryngaer o Oes yr Haearn, a elwir yn ‘Wersyll y Wenallt’. Caiff ei disgrifio fel Heneb Restredig Cynhanesyddol Domestig ac Amddiffynnol – yn dyddio o tua 700CC – 74OC. Caer o bren a cherrig yw’r strwythur gwreiddiol, symbol o statws o bŵer, meddiant a rheolaeth. Wedi’i lleoli ar ben deheuol esgair, mae’n cynnig golygfeydd eang dros wastadedd Caerdydd.
Mae’r olion gweladwy yn cynnwys: y fynedfa, a welir fel bwlch yn yr amddiffynfeydd i’r de-ddwyrain; rhannau o wal gynnal ar ffurf blociau mawr; teras wedi’i lefelu rhyw ychydig yn ymyl y canol, a phant i’r de-orllewin y credir sy’n weddillion tŷ crwn a sgŵp chwarel, yn y drefn honno. Arweiniodd chwiliad synhwyrydd metel yn ardal Coed-y-Wenallt yn 1980 at ddarganfyddiad hanesyddol ychwanegol (ac arwyddocaol). Ar yr adeg honno, canfuwyd celc o 102 o geiniogau arian canoloesol, a gellir gweld detholiad o’r rhain yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru. Wedi’u bathu yn bennaf yng Nghaerdydd, cawsant eu claddu o gwmpas 1140OC yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng y Brenin Stephen a’r Ymerodres Matilda. Mae Tŷ Fferm Rhiwbeina, Adeilad Rhestredig Gradd II, dyddiedig o ddiwedd y 17eg a dechrau’r 18fed ganrif, yn ymyl y daith gerdded uwchben Coedwig Greenmeadow. Mae adeilad bach cerrig o’r ardal, sydd wedi cadw’r adeiladwaith hanesyddol, gan gynnwys ffrynt wedi’i chwipio, gyda tho llechi Cymreig a staciau pen. Mae’n cynnwys tri llawr gydag amrediad o dair ffenestr i bob llawr a chyntedd gyda thalcen ar y tu blaen. Mae’n cynnwys gardd wedi’i chau â wal garreg a chamfa garreg yn y fynedfa flaen.
Ar droid/beic:
Mae Llwybr Taf yn rhedeg i’r gogledd o’r Gwesty (ger Castell Coch).
Ar y bws:
Mae Llwybr Taf yn rhedeg i’r gogledd o’r Gwesty (ger Castell Coch). www.cardiffbus.co.uk
Yn y Trên:
Ewch ar lein Coryton i Riwbeina ac ymuno â’r daith ar Allt Rhiwbeina. Am amseroedd y trenau, ewch i www.nationalrail.co.uk
Yn y car:
Cymerwch Gyffordd 32 yr M4 a dilynwch y ffordd slip i gylchfan fawr, gan adael ar allanfa Tongwynlais.
Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r daith (neu i adrodd am unrhyw broblemau) cysylltwch â Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ar 029 2078 5200.