Buddiannau Cerdded
Mae cerdded bywiog cyson yn gallu helpu pobl i deimlo’n well mewn sawl ffordd:
Mae’n gyfeillgar a chymdeithasol.
Mae am ddim, yn digwydd yn aml ac yn hwyliog.
Gall eich cynorthwyo i golli pwysau.
Gall eich cynorthwyo i wella eich iechyd cyffredinol.
Gall helpu pobl i fynd allan a chymysgu gyda phobl leol eraill.
Wyddech chi fod cerdded yn fywiog am 30 munud ar 5 diwrnod o’r wythnos neu’n fwy aml yn gallu gwella iechyd pobl mewn nifer o ffyrdd?
Awgrymiadau i’ch Rhoi Ar Ben Ffordd
- Ewch i weld y meddyg os oes unrhyw bryderon gennych am gyflwr eich iechyd.
- Gwisgwch esgidiau cyfforddus.
- Cerddwch gyda ffrind neu chwiliwch am eich grŵp Cerdded Er Lles Iechyd lleol.
- Nodwch eich cynnydd: er enghraifft, sylwch faint yn haws yw dringo’r grisiau.
- Ewch i gerdded mewn llefydd newydd.
Gallwch gynnwys cerdded yn eich bywyd bob dydd drwy:
- Ddefnyddio’r grisiau yn lle’r lifft.
- Cerdded y ci.
- Mynd am dro dros ginio.
- Cerdded gyda’r plant i’r ysgol ac adref.
- Dod oddi ar y bws mewn arhosfan gynharach.
- Cerdded i nôl y papur neu i bostio llythyr.
- Parcio ymhellach i ffwrdd na’r lle rydych yn anelu mynd iddo.
- Mynd am dro fel teulu i ymlacio a chymdeithasu.