Parc Cefn Onn

Ynglŷn â Parc Cefn Onn

Mae’r parc hanesyddol gradd 2 hwn, sydd ar ymylon gogleddol Caerdydd hefyd yn barc gwledig sy’n rhoi mynediad at rwydwaith llwybrau troed Mynydd Caerffili. Mae’n cynnwys casgliad hynod o goed cynhenid ac egsotig mewn dyffryn clos. Caiff ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd trawiadol a’r awyrgylch braf, llonydd.

Yn wreiddiol gosodwyd rhan uchaf y parc tua chanrif yn ôl, gan y perchennog, Ernest Prosser, Cyfarwyddwr Rheilffordd Cwm Rhymni oedd gerllaw. Mae ei nentydd a llwybrau troellog yn dilyn y cwm ysgafn lle llifa’r Nant Fawr.

Mae’r nentydd, pyllau, coetir a phlanhigion eraill yn gwneud hon yn noddfa ar gyfer bywyd gwyllt. Mae ymwelwyr yn dychwelyd yn rheolaidd i fwynhau’r parc mewn gwahanol dymhorau.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor o 7am tan 30 munud cyn y machlud.

Parcio ar gael ar y safle.

Nodweddion

  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2: Mae’r parc ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Gardd Goetir: gosodwyd ar ôl 1944 yn rhan ddeheuol y safle
  • Y Dingle: yr ardd hanesyddol a osodwyd gan Ernest Prosser; Mae’r rhan hon yn cynnwys casgliad o blanhigion prin ac egsotig (ar gau i’r cyhoedd am 4 mis o 4 Chwefror 2019).
  • Tŷ haf a’r hen bwll nofio: Mae’r pwll a’r tŷ haf yn nodweddion cynnar y Dingle, a godwyd i leddfu symptomau’r diciâu a oedd ar fab Prosser, Cecil.
  • Coed Transh yr Hebog: coetir Derw a Bedw hanner naturiol tua’r gogledd o’r tir parc mwy ffurfiol yn agos at gopa mynydd Caerffili.
  • Murlun celf: yn y danffordd ym mynediad y parc, yn adrodd hanes y parc.
  • Arddangosiadau’r gwanwyn: mae’r parc yn werth ei weld trwy’r gwanwyn a’r lloriau blodeuog o fylbiau’r gwanwyn a’r camelia, y rhododendron a’r asalea.
  • Lliwiau’r hydref: mae’r casgliad o goed a’r llwyni’n cynnig arddangosiad cyfoethog a lliwgar yn yr hydref.

Cyfleusterau

  • Llwybr Fforio Bywyd Gwyllt: i blant – (lawrlwythwch daflen)
  • 12 O Weithgareddau I Blant Ym Mharc Cefn Onn (lawrlwythwch daflen)
  • Llwybrau wedi eu marcio: trwy’r parc, yn cysylltu â llwybrau cerdded yn y wlad o’i gwmpas.
  • Cysylltiadau llwybrau troed: i lwybr cerdded Cefnffordd Caerffili
  • Cyfleoedd Gwirfoddoli: Mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid Parc Cymunedol yn trefnu dyddiau gwaith a gweithgareddau eraill yn y parc mewn cydweithrediad â Chyfeillion Cefn Onn .

Llogi sgwteri Tramper ym Mharc Cefn Onn

Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, rydyn ni wedi ymuno â Countryside Mobility, i ddarparu dau sgwter symudedd sy’n addas ar gyfer pob math o dir i’w llogi. Mae’r rhain ar gael un diwrnod yr wythnos ar ddyddiadau penodol.

Maen nhw’n ddiogel ac yn hawdd eu defnyddio, hyd yn oed os nad ydych  wedi gorfod defnyddio sgwter o’r blaen.

Gall archebion gael eu gwneud drwy e-bostio CeidwaidParciauCymunedol@caerdydd.gov.uk. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt a’r amser, y dyddiad, a pha mor hir yr hoffech logi’r Tramper

Gall fod yn bosibl cael un heb archebu o flaen llaw, yn dibynnu ar argaeledd ar y dyddiadau llogi penodol.

Gyda 2 lwybr ar gael drwy’r parc, gallwch gerdded o’i gwmpas i gyd mewn awr. Os yw’n well gennych chi gyflymder mwy hamddenol, rydym yn argymell cymryd o leiaf 2 awr.

I logi sgwter Tramper, bydd angen i chi ymaelodi gyda Countryside Mobility. Gellir defnyddio’r aelodaeth ym mhob lleoliad Countryside Mobility arall hefyd.

Dewisiadau aelodaeth:

  • 12 mis – £15 (delfrydol ar gyfer ymweliadau mynych â’r parc a lleoliadau eraill Countryside Mobility).
  • Pythefnos – £5
  • Defnydd untro – £3

Mae ffi llogi ychwanegol o £2.50 yr awr – mae hyn yn helpu i dalu costau cynnal y gwasanaeth.  Bydd taliadau cardiau yn cael eu cymryd wrth gyrraedd.

Gellir llogi Trampers rhwng 10am a 2:30pm ar y dyddiadau hyn:

2024

  • Dydd Mercher 20 Tachwedd
    Dydd Sadwrn 30 Tachwedd
  • Dydd Mercher 04 Rhagfyr
  • Dydd Iau 12 Rhagfyr
  • Dydd Sul 22 Rhagfyr

2025

  • Dydd Sul 05 Ionawr
  • Dydd Sadwrn 11 Ionawr
  • Dydd Mercher 15 Ionawr
  • Dydd Mercher 22 Ionawr
  • Dydd Mercher 29 Ionawr
  • Dydd Sadwrn 08 Chwefror
  • Dydd Mercher 12 Chwefror
  • Dydd Sadwrn 22 Chwefror
  • Dydd Llun  24 Chwefror
  • Dydd Sadwrn 08 Mawrth
  • Dydd Mercher 12 Mawrth
  • Dydd Sadwrn 22 Mawrth
  • Dydd Mercher 26 Mawrth

Dyddiadau eraill i’w cadarnhau

Person travelling through a forest using a tramper vehicle
Person going up steep hill in a tramper vehicle
Example showing what the tramper looks like
Countryside mobility logo
Lottery Heritage fund logo

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Prif fynedfa 51.5460242 / -3.1883328

What3words: united.lend.tuck

Darganfod y parc

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd