Ynglŷn â Parc y Mynydd Bychan
Bu Parc y Mynydd Bychan unwaith yn rhan o ‘Waun Fawr ’ Caerdydd; mae bellach yn ardal werdd bwysig ar gyfer maestrefi gogledd Caerdydd. Mae’r parc 37 hectar (91 erw) yn cynnig cyfleusterau chwaraeon a chwarae i bob oedran, ond mae hefyd yn cynnwys coetiroedd, pyllau a gwlyptir sy’n gynefin i ystod eang o blanhigion a bywyd gwyllt.
Mae Parc y Mynydd Bychan yn un o barciau Baner Werdd Caerdydd.