Ynglŷn â Parc Thompsons
Hwn yw un o barciau hynaf Caerdydd; gardd breifat oedd y parc i gychwyn ac fe’i hagorwyd i’r cyhoedd ym 1891 gan ei pherchennog, Charles Thompson. Mae’r parc hanesyddol yn un gradd 2 , ac fe’i adwaenid yn wreiddiol fel Cae Syr David. Cafodd ei ehangu a’i dirlunio gan y dylunydd gardd enwog, Syr William Goldring , tua 1895. Ym 1911, rhoddodd Mr Thompson y parc i Gorfforaeth Caerdydd.
Mae’r parc deniadol hwn, gyda’i bistyll dŵr eiconig yn fan poblogaidd i dreulio amser.