Cefndir
Mae Adran Parciau Cyngor Caerdydd wedi lansio Ymgynghoriad Trefniadau Cloi Parciau ar gyfer Parc y Rhath, Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn ac yn gwahodd trigolion lleol i ddweud eu dweud.
Cyn y pandemig, byddai’r parciau hyn yn cael eu datgloi bob bore o 7.30am a byddai cloi yn dechrau 30 munud cyn machlud haul. Yn y gaeaf, arweiniodd hyn at gau’r parc o 3.30pm.
Yn ystod y pandemig, ataliwyd cloi’r parciau er mwyn caniatáu mynediad dros gyfnod hwy o amser, gan helpu i gefnogi lles corfforol a meddyliol.
Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, rydym yn awyddus i glywed gennych a ddylai’r parciau aros heb eu cloi neu ddychwelyd i drefniadau cloi.