Gallwch ein helpu i blannu mwy o goed ledled Caerdydd.
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau ar gyfer ble yr hoffech weld mwy o goed o amgylch Caerdydd, pa fath o blannu, a grwpiau cymunedol i’w cynnwys.
E-bostiwch eich awgrymiadau at coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk a rhoi gwybod i ni am y canlynol (os yw’n bosibl):
- Enw’r safle
- Cyfeiriad (gan gynnwys cod post – os yn bosib dylech gynnwys y cyfeirnod “Pa dri gair/What three words” os yn bosibl)
- Math o safle (e.e. stryd, man agored gwyrdd, parc, coetir)
- Unrhyw ffafriaeth i fathau o blannu neu rywogaethau (e.e. coed ffrwythau, rhywogaethau brodorol, coed â llawer o flodau, gwrychoedd)
- Pwy sy’n berchen ar y safle
- A oes unrhyw grwpiau’n defnyddio’r safle (e.e. clybiau chwaraeon, ysgolion, grwpiau amgylcheddol neu gymunedol)
- Unrhyw ffotograffau o’r safle
Byddwn yn cwblhau ymarfer bwrdd gwaith cychwynnol i benderfynu a allai’r safle a awgrymir fod yn addas ar gyfer plannu coed. Os bydd safleoedd enwebedig yn pasio’r meini prawf cychwynnol, byddwn yn gwirio gwerth ecolegol y safle, gwasanaethau (e.e. dŵr, telathrebu), ac a oes angen caniatâd.
Efallai y byddwn yn penderfynu nad yw’r safle’n addas ar gyfer plannu coed oherwydd sawl ffactor; gan gynnwys maint, gwrthdaro â defnyddiau eraill y safle, a gwrthdaro â chynefinoedd eraill sy’n bodoli sydd eisoes yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth. Os penderfynwn fod y safle’n anaddas, bydd cyfleoedd eraill i ymuno â ni i blannu coed mewn safleoedd ledled Caerdydd.
Os caiff y gwiriadau hyn eu pasio, byddwn wedyn yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i benderfynu ar ddyluniadau plannu a neilltuo coed i’w plannu.
Byddwn yn cyflwyno hysbysiadau safle lle bo hynny’n bosibl er mwyn sicrhau bod trigolion lleol yn cael gwybod am gynlluniau plannu ac yn annog pobl i gymryd rhan.
Byddwn wedyn yn cadarnhau dyddiad plannu addas o fewn y tymor plannu coed nesaf (hydref – gwanwyn) neu’n rhoi’r safle ar ein rhestr o safleoedd i’w plannu yn y dyfodol.
Sylwch y gall plannu yn y strydlun gymryd mwy o amser i’w gwblhau ac weithiau ni all fod yn bosibl oherwydd newidiadau sylweddol sydd eu hangen i’r seilwaith. Peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag enwebu strydoedd oherwydd lle bo’n bosibl byddwn yn archwilio atebion creadigol i gyflwyno coed i strydoedd lle nad oes fawr o gyfle i’w cyflwyno i balmentydd neu ffyrdd. Er enghraifft, drwy annog aelwydydd i blannu coed yn eu gerddi blaen a/neu osod blychau plannu dros dro gyda choed lled-aeddfed.
Rydym yn annog aelwydydd i ofyn am goed am ddim i blannu yn eu gerddi blaen neu gefn. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd heb lawer o gyfleoedd i blannu coed yn y strydlun neu os oes prinder parciau a mannau gwyrdd cyfagos.
Sylwer mai impnau ifanc 60-80cm (coed bach) yw’r rhain. Gellir plannu coed yn y ddaear neu mewn potiau a gallwn roi cyngor ar rywogaethau coed ac ôl-ofal.
Mae 2 gylch ceisiadau y tymor:
- Cylch yr hydref ar gyfer casgliadau o Fferm y Fforest ym mis Rhagfyr, a
- Cylch y gwanwyn ar gyfer casgliadau o Fferm y Fforest (ac ambell leoliad arall) ym mis Mawrth.
Dysgwch fwy am ein digwyddiadau casglu yn y dyfodol.
E-bostiwch am fwy o wybodaeth: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk
Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n bodoli eisoes sydd â phrofiad o gadwraeth amgylcheddol, gallwch ofyn am goed i’w casglu a’u plannu mewn safleoedd rydych chi’n gofalu amdanynt.
Gallwn hefyd ddarparu coed ar gyfer grwpiau newydd, dibrofiad ac anffurfiol, nodwch a ydych yn perthyn i’r categori hwn gan y gallwn drefnu cymorth ychwanegol i helpu gyda chyngor dylunio, plannu ac ôl-ofal.
Mae cymorth ar gael i grwpiau cymunedol, elusennau, grwpiau ffydd, sgowtiaid, clybiau chwaraeon, a mwy.
Os eos gennych ddiddordeb mewn coed newydd i’ch man cymunedol neu i ymuno â ni am ddigwyddiadau plannu awyr agored, e-bostiwch am fwy o wybodaeth: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk
Rydym yn annog ysgolion i gymryd rhan naill ai drwy ofyn am blannu coed newydd ar eu tir neu ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau plannu coed allanol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn coed newydd ar gyfer eich ysgol neu mewn ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau plannu allanol, e-bostiwch am ragor o wybodaeth: coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk
Mae croeso i unigolion a grwpiau gyfrannu at y prosiect drwy roi coed bach neu brynu coed o restr gymeradwy o gyflenwyr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu coed i’r prosiect, e-bostiwch am ragor o wybodaeth: coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y camau sy’n gysylltiedig ag enwebu safleoedd i blannu coed, gweler ein coeden benderfyniadau ar enwebu safle
Safle a enwebir
- Ymholiad
- Ymgynghoriad
- Cydweithwyr
- Drwy gydol y flwydddyn
Gwiriadau bwrdd gwaith
- Lleoliad ac addasrwydd
- Math y safle(e.e. strydoedd, lleiniau ymyl, parciau, coetiroedd)
- Tystiolaeth o blannu blaenorol/cyfyngiadau
- Perchnogaeth
- Gwanwyn
Arolwg safle
- Ecoleg
- Mynediad
- Defnydd y safle
- Haf
Gwiriadau
- Gwasanaethau
- Rhanddeiliaid (gan gynnwys hysbysiadau safle)
- Defnydd yn y dyfodol
- Haf
Dyluniad plannu
- Opsiynau plannu (brodorol, coetir gwlyb, perllan, adddurniadol)
- Opsiynau coed stryd (coeden newydd mewn hen bwll, blychau plannu dros dro, gerddi blaen, newidiadau i seilwaith)
- Coed iawn, lle iawn (gan gynnwys rhywogaethau, maint, bodloni anghenion rhanddeiliaid, diogelu at y dyfodol)
- Coed wrth gefn
- Haf
Dyddiad plannu
- Tymor plannu nesaf neu dymor yn y dyfodol
- Hyrwyddo a chynnwys rhanddeiliaid
- Haf – Hydref
Digwyddiad plannu
- Cynnwys gwirfoddolwyr
- Hydref – Gwanwyn
Monitro
- Logio yn Arbortrack (system ddigidol ar gyfer cofnodi coed a chynnal a chadw)
- Gwarcheidwaid coed (gwirfoddolwyr lleol yn helpu i ofalu am goed newydd)
- Cwmpas i blannu ymhellach
- Drwy gydol y flwyddyn
Gweler hefyd:
Beth yw Coed Caerdydd? | Enwebu safleoedd, gofyn a chyfrannu coed | Cyfleoedd gwirfoddoli