Dysgu yn yr awyr agored i addysgwyr

Rydym yn cynnig cyrsiau 1 diwrnod ar gyfer addysgwyr.

Gall ein cyrsiau ar gyfer addysgwyr eich helpu i:

  • fagu hyder wrth addysgu yn yr awyr agored,
  • cynnig syniadau a gweithgareddau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a chysylltu â’r cwricwlwm,
  • nodi a deall rôl addysgwyr yn yr awyr agored,
  • nodi rhwystrau i ddysgu yn yr awyr agored a chynllunio ar gyfer sut i’w goresgyn,
  • llunio rhestr o’r eitemau yr hoffent eu defnyddio yn yr awyr agored,
  • trafod a pharatoi asesiadau risg a rheoli polisïau diogelwch ar gyfer dysgu yn yr awyr agored,
  • awgrymu ffyrdd y gall rhieni, gofalwyr, staff eraill, llywodraethwyr a grwpiau CRhA (Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon) gymryd rhan, a
  • pharatoi sesiynau ar gyfer pob math o dywydd.

Archebu lle

Archebwch le i ddysgu am ffyrdd mwy creadigol o addysgu.

Dyddiadau tymor yr hydref 2024

  • Dydd Iau 10 Hydref
  • Dydd Mawrth 19 Tachwedd

Pris: £65 y person

Amser: 9.30am i 3.30pm

Lleoliad:

Fferm y Fforest
Longwood Drive
Ffordd Fferm y Fforest
Caerdydd
CF14 7HY

Cysylltwch â ni i archebu lle.

E-bost: ParciauIDdysgu@caerdydd.gov.uk

School children exploring a river
Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd