Dysgu yn yr awyr agored ar gyfer clybiau a grwpiau wedi’u trefnu

Rydym yn cynnig sesiynau gyda’r nos ac ar benwythnosau ar gyfer grwpiau wedi’u trefnu. Er enghraifft:

  • brownis,
  • sgowtiaid, neu
  • glybiau ar ôl yr ysgol.

Cynhelir y sesiynau hyn gan ein Ceidwaid Cymunedol a’n Swyddogion Addysg.

Nodwch fod sesiynau clwb a grwpiau wedi’u trefnu ar gyfer grwpiau sydd â 15 o blant o leiaf.

Rydym wedi casglu enghreifftiau o’r gweithgareddau a’r pynciau mwyaf poblogaidd. Gallwn gynnal rhai o’r rhain mewn parc neu fan gwyrdd yn agos at eich lleoliad.

  • Hyd: 2 i 2.5 awr.
  • Gweithgareddau – £3 y plentyn
Children helping nature

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Unrhyw un

Gwybodaeth ychwanegol

Gan archwilio’r parc trwy gemau a gweithgareddau, bydd plant yn defnyddio deunyddiau naturiol ar gyfer:

  • creu oriel gelf rhisgl,
  • llunio helfa sborion, a
  • chwblhau her tŵr brigau.

Cyfle i weithio ar sgiliau cyfathrebu ac adeiladu tîm.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

  • Parc y Rhath
  • Parc Hailey
  • Fferm y Fforest

Gwybodaeth ychwanegol

Taith gerdded yn hwyr y nos. Chwilio am ystlumod a gwrando amdanynt gan ddefnyddio synwyryddion ystlumod.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

  • Fferm y Fforest
  • Parc Hailey
  • Parc y Rhath
  • Parc Bute

Gwybodaeth ychwanegol

Cerdded a chlonc o gwmpas y parc. Dysgu am ei hanes a’r hyn sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad yr ardal.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

I’w drafod

Gwybodaeth ychwanegol

Archwilio cynefinoedd a chasglu anifeiliaid di-asgwrn cefn. Byddwn yn dysgu sut i drin anifeiliaid gyda pharch a gofal, yn ogystal â sut i ddefnyddio:

  • allwedd,
  • chwyddwr i adnabod y creaduriaid, a
  • siartiau adnabod.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Tŷ Gwydr Parc y Rhath

Gwybodaeth ychwanegol

Taith o amgylch y tŷ gwydr i ddarganfod planhigion y goedwig law a sut mae pobl frodorol yn eu defnyddio.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Unrhyw un (Parc Bute, Fferm y Fforest a Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd yn ddelfrydol)

Gwybodaeth ychwanegol

Adnabod rhywogaethau adar, dysgu:

  • pam eu bod yn byw yn y parc, a
  • sut maen nhw’n goroesi.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

  • Fferm y Fforest
  • Parc Bute
  • Parc Llanisien
  • Parc Cefn Onn
  • Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd
  • Gerddi Melin y Rhath

Gwybodaeth ychwanegol

  • Chwilota mewn afon o draeth ar Afon Taf, neu
  • chwilota mewn pyllau.

Gall plant archwilio a chanfod bywyd gwyllt. Byddant yn cofnodi’r math o greaduriaid a niferoedd pob rhywogaeth, ac yn cyfrifo pa mor iach yw’r afon neu’r pwll.

Gweithgareddau am ddim

Tymor

Medi i Chwefror

Lleoliad

I’w drafod

Gwybodaeth ychwanegol

  • Torri llystyfiant yn ôl,
  • clirio llwybrau,
  • glanhau arwyddion, a
  • chyflawni tasgau tymhorol, er enghraifft crafu gwair.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

I’w drafod

Gwybodaeth ychwanegol

Offer wedi ei ddarparu.

Gallwch hefyd lawrlwytho ein Teithiau Antur Bywyd Gwyllt am ddim i’w defnyddio yn eich parc neu fan gwyrdd agosaf

Cadw lle

Cysylltwch â ni i gadw lle. Gallwn drafod eich ymweliad a sut y gallwn eich helpu i gael y gorau ohono.

E-bost:  ParciauIDdysgu@caerdydd.gov.uk

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd