Pam defnyddio parciau a mannau gwyrdd ar gyfer dysgu?
Gall cyflwyno plant i’r amgylchedd naturiol eu hannog i ymddiddori yn y byd o’u cwmpas. Gall yr amgylchedd dysgu awyr agored ddarparu profiadau unigryw a gwahanol i’r ystafell ddosbarth. Mae’n:
- llai strwythuredig
- heb fod yn gyfyngedig i dir yr ysgol,
- yn amlsynhwyraidd, ac yn fwy hamddenol.
Gall hyn ddylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiad plentyn, gan ei annog i fod yn dawelach a chanolbwyntio’n well. Mae ein lleoedd awyr agored hefyd yn cynnig cyfle i blant:
- wneud cysylltiadau y tu allan i’r ystafell ddosbarth tra’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth mewn ffordd ystyrlon, a
- datblygu sgiliau fel meddwl yn greadigol, datrys problemau a myfyrio.
Byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod plant yn cael hwyl wrth ddysgu yn ein gofodau. Gall ein tîm gwybodus, hawdd mynd atynt a phroffesiynol:
- gefnogi eu dysgu a’u dealltwriaeth o blanhigion ac anifeiliaid,
- helpu i ddangos sut mae natur yn hanfodol i’n bodolaeth ein hunain.
Ble mae fy mharc neu fan gwyrdd lleol?
Gallwch chwiliwch ein rhestr lawn o barciau a mannau gwyrdd yn ôl enw, lleoliad neu gyfleusterau.
Cadw lle a gwybodaeth am sesiynau dysgu yn yr awyr agored
Gallwch gael mwy o wybodaeth am sesiynau ar gyfer:
Gallwn ddylunio cynlluniau sesiynau i ddiwallu anghenion grwpiau a galluoedd oedran gwahanol ar gais.