Croeso i gynllun Cerdded Er Lles Iechyd Caerdydd.
Mae cerdded yn hawdd, am ddim ac yn agored i bawb bron iawn, waeth beth yw eu gallu corfforol neu gyflwr eu hiechyd.
Mae Cerdded Er Lles Iechyd yn gyfres o deithiau cerdded sy’n cael eu trefnu ledled y ddinas sydd wedi eu datblygu i fod yn agored i bobl sydd heb wneud fawr ddim ymarfer corff o’r blaen. Mae cyfres o deithiau tywys rheolaidd wedi eu datblygu gydag arweinwyr teithiau cerdded ac fe gynghorir cerddwyr i’w chymryd hi’n ara’ deg am ychydig wythnosau gan adeiladu at rywbeth ychydig yn fwy heriol pan fyddan nhw’n barod.
Mae manteision lu i gerdded ac mae cerdded mewn grŵp yn arwain at fanteision corfforol ond hefyd y cyfle i gael cyswllt cymdeithasol a chefnogaeth gan eraill.
Mae Cerdded Er Lles Iechyd yn gyfle i greu ffrindiau a mwynhau yr awyr iach tra’n gwella ffitrwydd neu aros yn heini. Mae’r teithiau i gyd yn deithiau cerdded byr, hawdd eu cyrraedd, fel rheol rhwng 1 a 3 milltir neu 30 i 90 munud o hyd. Mae’r teithiau ar agor i bawb. Mae rhai’n fwy addas na’i gilydd ar gyfer bygis a defnyddwyr cadair olwyn – cysylltwch â’n Cydlynydd i gael rhagor o gyngor.