Mae’r adnoddau hyn wedi’u creu gan Brosiect Partneriaeth Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd. Mae’r prosiect wedi gweithio gyda dros 30,000 o deuluoedd, ysgolion, sefydliadau lleol ac unigolion i helpu i gysylltu cymunedau trefol â bywyd gwyllt lleol a’u grymuso i weithredu dros fyd natur.
Rhwng 2017-2022, mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i weithredu mewn partneriaeth ag RSPB Cymru, Cyngor Caerdydd a Buglife Cymru.
Datblygodd Prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd ystod o weithgareddau chwarae ym myd natur dwyieithog ar gyfer plant 3-16 oed. Mae modd eu defnyddio mewn lleoliadau chwarae ffurfiol neu anffurfiol.
Mwynhaodd dros 10,000 o blant gysylltu â byd natur drwy ddefnyddio’r rhain rhwng 2017-2022.
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i ddefnyddio’r gweithgareddau syml hyn i greu sesiynau chwarae ym myd natur.
Wrth feddwl pa weithgareddau i’w paratoi er mwyn helpu i gysylltu plant a theuluoedd â byd natur, mae’n werth ystyried y Pum Llwybr i Gysylltu â Byd Natur, a luniwyd gan Brifysgol Derby. Datblygwyd y llwybrau hyn yn dilyn blynyddoedd o ymchwil gan weithwyr proffesiynol amrywiol a byddant yn sicrhau cysylltiad â byd natur i blant. Mae pob llwybr yn addas ar gyfer arddull dysgu a datblygu penodol, a thrwy sicrhau bod gennych weithgareddau sy’n ymgorffori dau neu fwy o’r llwybrau hyn, rydych yn gwneud y gweithgaredd yn hygyrch ac yn fwy cynhwysol i gynulleidfa ehangach.
Drwy ymchwil, ymgynghori a gwerthuso, creodd prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd ‘fatrics’ o weithgareddau tymhorol. Mae gan bob gweithgaredd brif lwybr. Mae llawer o’r gweithgareddau’n cefnogi mwy nag un llwybr, er enghraifft ‘Planhigion blodeuol’, sy’n cael ei restru dan cyswllt ond sydd â chysylltiad agos â harddwch hefyd. Yn yr un modd, gellir gwneud llawer o’r gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn, ac nid yn ystod un tymor yn unig.
Y syniad yw eich bod yn defnyddio cyfuniad o’r gweithgareddau hynny sy’n addas i chi er mwyn creu eich digwyddiad natur eich hun, neu’n eu defnyddio fel gweithgareddau unigol.
Mae croeso i chi lawrlwytho’r 16 o weithgareddau hyn a’u defnyddio gyda phlant a theuluoedd.
Dyma ychydig o dempledi gwag i chi greu eich gweithgareddau eich hun.
Addysgu gyda Natur
Canllaw tymhorolar gyfer darparu cwricwlwm Cymru gan ddefynddio’r awyr agored.
Gallwch ddefnyddio Adnoddau Her Wyllt yr RSPB ac Adnoddau Her Teulu’r RSPB yn eich gweithgareddau.
Chwarae tu allan
Cyn i chi chwarae yn yr awyr agored, dyma saith rheol euraidd i gadw pawb yn ddiogel. Defnyddiwch nhw i ffurfio eich asesiad risg.
- Ymarfer gweithgareddau ymlaen llaw i weld sut i leihau risgiau.
- Gwiriwch y tywydd y diwrnod cynt.
- Gofynnwch i’r plant sut y gallant gadw eu hunain yn ddiogel.
- Byddwch yn wyliadwrus yn ystod y gweithgaredd am beryglon annisgwyl.
- Gwell peidio ag aflonyddu ar bethau byw, yn hytrach edrych arnynt yn dawel.
- Peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw beth nad ydych 100% yn siŵr amdano neu y gwyddoch y bydd yn eich pigo.
- Sicrhewch fod y plant yn gwybod y ffiniau, a’ch bod bob amser yn gwybod ble maen nhw.
Ieithoedd eraill
Mae’r holl adnoddau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae rhai o’n hadnoddau hefyd ar gael ym 5 iaith sy’n gyffredin yng Nghaerdydd: Arabeg, Wrdw, Somalieg, Bengaleg a Phwyleg.
Ariannwyd yr hyfforddiant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Phartneriaeth Natur Lleol Caerdydd.