Dewisir safleoedd o ddiddordeb yn seiliedig ar argymhellion gan gydweithwyr, canlyniadau ymgynghoriadau’r cyhoedd ac aelodau wardiau (2019 a 2021), ac awgrymiadau pellach gan y cyhoedd drwy e-bost neu gyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn cwblhau ymarfer bwrdd gwaith cychwynnol i benderfynu a allai’r safle a awgrymir fod yn addas ar gyfer plannu coed. Os bydd safleoedd enwebedig yn pasio’r meini prawf cychwynnol, byddwn yn gwirio gwerth ecolegol y safle, gwasanaethau (e.e. dŵr, telathrebu), ac a oes angen caniatâd.
Efallai y byddwn yn penderfynu nad yw’r safle’n addas ar gyfer plannu coed oherwydd sawl ffactor; gan gynnwys maint, gwrthdaro â defnyddiau eraill y safle, a gwrthdaro â chynefinoedd eraill sy’n bodoli sydd eisoes yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth.
Os caiff y gwiriadau hyn eu pasio, byddwn wedyn yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i benderfynu ar ddyluniadau plannu a neilltuo coed i’w plannu.
Byddwn yn cyflwyno hysbysiadau safle lle bo hynny’n bosibl er mwyn sicrhau bod trigolion lleol yn cael gwybod am gynlluniau plannu ac yn annog pobl i gymryd rhan.
Byddwn wedyn yn cadarnhau dyddiad plannu addas o fewn y tymor plannu coed nesaf (hydref i gwanwyn) neu’n rhoi’r safle ar ein rhestr o safleoedd i’w plannu yn y dyfodol.