Ers mis Tachwedd 2021, mae’r prosiect wedi plannu tua 80,000 o goed newydd mewn 300 o safleoedd ledled Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys:
- 8 hectar o ardaloedd coetir newydd,
- 3 hectar o wrychoedd newydd, a
- bron i 1,000 o goed ffrwythau.
Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys:
- 162 o barciau a mannau agored
- 40 o leiniau ymyl stryd,
- 37 o ysgolion, meithrinfeydd neu leoliadau prifysgol,
- 2 fferm, a
- 15 o fannau cymunedol eraill fel neuaddau sgowtiaid, eglwysi, rhandiroedd a Hybiau.
Roedd 2,500 o wirfoddolwyr yn rhan o dymor plannu 2023 i 2024.
Mae ein gwirfoddolwyr wedi cyfrannu dros 11,000 o oriau ers dechrau’r rhaglen yn 2021.
Mae llawer o deuluoedd yn gwirfoddoli gyda’i gilydd, tra bod llawer o’n gwirfoddolwyr eraill yn dod o:
- grwpiau corfforaethol,
- ysgolion, neu
- grwpiau cymunedol.
Maent i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn:
- plannu a monitro coed ar draws Caerdydd, ac yn
- gofalu am ein planhigfa goed yn Fferm y Fforest.
Yn unol â chyfartaleddau’r DU, cyfradd llwyddiant cyfartalog plannu newydd ledled Caerdydd yw 82%. Mae gan oddeutu 40% o safleoedd gyfradd llwyddiant o 100%.
Mae rhwydwaith y prosiect o “Warcheidwaid Coed” yn helpu i fonitro iechyd y safle ac adrodd am golledion coed newydd, a all fod oherwydd:
- ffactorau tymhorol,
- clefydau, neu
- fandaliaeth.
Lle bu colledion mewn ardaloedd coed newydd, bydd y prosiect yn darparu rhai newydd yn lle’r rhain neu’n newid dull. Gallai hyn olygu dewis rhywogaeth arall i’w phlannu. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gan goed y cyfle gorau o sefydlu.
Gallwch ddarganfod mwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli.
Mae Coed Caerdydd hefyd wedi trefnu dros 30 o ddigwyddiadau hyfforddi yn seiliedig ar:
- adnabod coed,
- tocio perllannau, a
- Stocrestr Coed Hynafol Coed Cadw.
Gallwch ddarganfod mwy am ein digwyddiadau hyfforddi yn y dyfodol.