Diolch am eich diddordeb i wirfoddoli gyda phrosiect Coed Caerdydd. Gyda chymorth cymunedau, ein nod yw cynyddu canopi coed Caerdydd o 18.9% i 25% fel rhan o Caerdydd Un Blaned.
Os hoffech gymryd rhan, ymunwch â’n rhestr bostio a’n cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am blannu coed a chyfleoedd gwirfoddoli eraill.
Anfonwch gais atom i ymuno â’n rhestr bostio: coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk
Hoffwch a dilynwch ein tudalen Facebook ac ymunwch â’n grŵp: @coedcaerdydd
Dilynwch ni ar Twitter: @coedcaerdydd
Dilynwch ein Eventbrite i ymuno yn y digwyddiadau sydd i ddod
Cyfathrebiadau
Byddem wrth ein bodd pe gallai cymaint o bobl â phosibl gymryd rhan yn y prosiect.
Helpwch ni i hyrwyddo ein prosiect, ein digwyddiadau, ein ymgynghoriadau a’n cyfleoedd gwirfoddoli drwy rannu ein gwybodaeth drwy’r post a’r cyfryngau cymdeithasol gyda’ch rhwydweithiau.
Gwirfoddolwyr plannu coed
Bydd digwyddiadau plannu coed yn rhedeg o ddechrau’r hydref i’r gwanwyn. Gallwch gofrestru ar gyfer digwyddiadau unigol ar-lein a bydd cyfeirio i’n dolenni ar gael drwy ein rhestr bostio a’n cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ein Eventbrite i ymuno yn y digwyddiadau sydd i ddod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni ar draws nifer o ddigwyddiadau plannu, llenwch a chyflwynwch y ffurflen hon a’i chyflwyno (.doc)
Gwirfoddolwyr gwarcheidwaid coed
Mae gofalu am ein coed sydd newydd eu plannu yn hanfodol er mwyn gallu sicrhau twf cynaliadwy yn y canopi ledled Caerdydd.
Mae angen eich help arnom i fonitro safleoedd sydd newydd eu plannu trwy wirio iechyd coed a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod. Efallai y bydd tasgau tymhorol hefyd. Er enghraifft:
- tynnu lluniau cynnydd,
- dyfrio, a
- chwynnu.
Ar ôl i ni gadarnhau eich manylion, byddwn yn rhoi rhestr o safleoedd i chi yn seiliedig ar eich ardal. Yna gallwch ddewis cymaint o safleoedd i’w monitro ag y dymunwch.
Yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi wyneb yn wyneb blynyddol, byddwn hefyd yn darparu adnoddau hyfforddi ar gyfer eich tasgau, gan gynnwys unrhyw wybodaeth rheoli risg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn “Warcheidwad Coed”, llenwch y ffurflen hon a’i chyflwyno (.doc)
Gwirfoddolwyr planhigfa goed
Mae gofalu am ein stoc coed gydol y flwyddyn yn ein planhigfa goed yn Fferm y Fforest yn hanfodol er mwyn gallu plannu coed iach ledled Caerdydd.
Mae angen eich help arnom i gwblhau tasgau rheolaidd, megis dyfrio a chwynnu, a thasgau tymhorol, megis codi a bwndelu stoc, a chasglu hadau ar gyfer lluosogi.
Dros y tymor hwy, gobeithiwn luosogi stoc coed o dras leol drwy gasglu hadau’n flynyddol a’u tyfu ymlaen. Bydd hyn yn helpu i atal rhagor o glefydau a phlâu coed rhag lledaenu a bydd yn creu gwydnwch yn ein coed yn y dyfodol.
Byddem yn gofyn i chi roi hyd at ddwy awr o’ch amser yr wythnos ac rydym yn cynnig sesiynau bob yn ail Ddydd Mercher a Dydd Sadwrn. Fel arfer bydd y sesiynau rhwng 10am a 12pm yn Fferm y Fforest.
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau eich manylion, byddwn yn rhoi gwybod i chi am sesiynau planhigfa goed sydd ar y gweill.
Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen hon a’i chyflwyno (.doc)
Mapio Rhestr Coed Hynafol
Rydym yn gweithio gyda Choed Cadw i hyrwyddo eu Rhestr o Goed Hynafol.
Maent yn gofyn am wirfoddolwyr er mwyn helpu i fapio coed hynafol, aeddfed iawn a nodedig Caerdydd a’u hychwanegu at eu cronfa ddata. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu rhai o’n coed mwyaf gwerthfawr sydd wedi bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd.
Os oes gennych ddiddordeb, ewch i wefan Coed Cadw i gael gwybod mwy a chymryd rhan: Rhestr Coed Hynafol – Coed Cadw
Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i fapio coed hynafol, aeddfed iawn a rhai nodedig posibl. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: coedcaerdyddproject@cardiff.gov.uk