Ffordd Pererindod Penrhys

Penrhys trail path

Mae Penrhys yn y Rhondda wedi bod yn ganolbwynt i pererindod dros ganrifoedd lawer. Heddiw, fe allwch gerdded ar hyd Ffordd Pererindod Penrhys o Gadeirlan LLandaf yng Nghaerdydd a dod o hyd i lwybr sydd â chyfoeth o hanes wrth i chi deithio trwy dirlun De Cymru sydd wastad yn newid.

Mae’n cael ei rhannu i chwe rhan ac mae’n bosib cyrraedd sawl man ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Fe all y llwybr gael ei gerdded fesul darn neu ddarnau ar y tro. Neu mae’n bosib ei gerdded ar ei hyd dros ddeuddydd, gan aros un noson yn Llantrisant.  Mae’r llwybr yn mynd trwy neu’n agos at fannau o ddiddordeb  – ac yn ystod y siwrnai, peidiwch ag anghofio printio pasbort  a chasglu’r unarddeg stamp sy wedi eu cynllunio’n abennig.

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd