Mae Taith Cambria’n cychwyn o Gastell Caerdydd yng nghanol y ddinas ac yn rhedeg ar hyd glannau’r afon Taf lan hyd at Gastell Coch, sy’n cynnig golygfa drawiadol arall. Byddwch yn mynd ymlaen i goedwigoedd ardderchog Fforest Fawr a Fforest Ganol. Mae’r llwybr yn 9.5 milltir o hyd ac mae’n hygyrch i gerddwyr, ac am ran fwyaf ei hyd, i feicwyr hefyd.
Ar ôl gadael Castell Caerdydd, mae’r llwybr yn croesi’r afon Taf a chewch fwynhau golygfeydd gogoneddus o lannau’r afon cyn cyrraedd Camlas Morgannwg. Mae’r ardal hon yn hafan i fywyd gwyllt a gallwch anghofio eich bod mewn dinas fawr a modern a mwynhau’r natur o’ch cwmpas.
Wrth adael y gamlas, byddwch yn cerdded tuag at y castell tylwyth teg– Castell Coch, a’r coedwigoedd sydd o’i gwmpas. Mae hyn yn eich arwain i Lwybr Cerdded Cefnffordd Rhymni ac ar yr A469 Thornhill Road. O’r cyfeiriad hwn bydd gennych gyfle i gael eich croesawu yn nhafarn The Travellers Rest, ac yna ddal y bws yn ôl i Ganol Dinas Caerdydd.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen i dudalen we Taith Cambria.
Mae’r rhan hon o Daith Cambria yn cynnwys sawl ardal bioamrywiaeth. Mae Parc Bute a’r Afon Taf yn cynnig hafan i Ddwrgwn a bywyd gwyllt lleol arall, ac mae Camlas Morgannwg yn lleoliad delfrydol i weld adar dŵr, crehyrod ac efallai Glas y Dorlan. Mae Fforest Fawr hefyd yn goetir hynafol gyda sawl dynodiad gwarchod natur.
Yn 1967, cynigiodd Tony Drake OBE i greu llwybr pellter hir dros brif fynyddoedd Cymru.
Ym 1968, sefydlwyd Pwyllgor Taith Cambria a gadeiriwyd gan Drake. Dosbarthwyd gwahanol ddarnau o’r gwaith mapio i sawl gwahanol sefydliad, Ramblers, YHA, y Bannau Brycheiniog a Chymdeithas y Gwardeiniaid Gwirfoddol. Nid oedd pawb yn cytuno o ran pa lwybrau i’w cynnwys mewn sawl lleoliad, a ble y dylai’r llwybr ddechrau a gorffen. Ar ôl cynnal nifer o gyfarfodydd, cytunwyd ar gyfaddawd ac y byddai’r llwybr yn ymestyn o Gaerdydd i Gonwy.
Roedd y Comisiwn Cefn Gwlad o blaid y fenter o’r dechrau a soniodd am Daith Cambria yn ei adroddiad blynyddol yn 1968 am y tro cyntaf. Fodd bynnag, arhosodd y llwybr “dan ystyriaeth” am sawl blynedd ar ôl hynny.
Ym mis Ebrill 1976, cymeradwyodd y Comisiwn broject Taith Cambria mewn egwyddor ac ym mis Medi 1977 dechreuodd ymgynghoriadau swyddogol ar y map a ddengys Llwybr Pwyllgor Taith Cambria a Llwybr a ffefrir gan y Comisiwn a oedd yn wahanol iawn.
Ym 1982, cynigiwyd llwybr cyfaddawdol dan yr enw “Llwybr Ymgynghori”, ond cafwyd gwrthwynebiadau cryf yn ei erbyn gan sawl corff a daeth i’r amlwg y byddai angen cyfaddawdu llawer mwy er mwyn cael cymeradwyaeth. Diflannodd brwdfrydedd cychwynnol y Comisiwn Cefn Gwlad a rhoddwyd y gorau i’r cynigion. Ar ôl colli gobaith am gydnabyddiaeth swyddogol, penderfynodd Drake gyhoeddi ei lawlyfr cyntaf ar ei lwybr answyddogol ym 1984, gyda llawer mwy o ryddid i lunio llwybr o’i ddewis ei hun.
Yn unol ag ewyllys Tony Drake, ar 1 Hydref 2015 crëwyd Ymddiriedolaeth Taith Cambria yn swyddogol. Gadawodd Tony Drake etifeddiaeth i Ramblers Cymru fel y gallant gynnal a chadw a gwella Taith Cambria, ac roedd y gweithgor a sefydlwyd i oruchwylio hyn yn cynnwys aelodau a oedd yn fodlon ar ddod yn ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Taith Cambria. Mae’r llwybr cyfredol yn ymestyn am 291 milltir ac yn cynnwys pob copa heriol ac ardal anghysbell sydd gan Gymru i’w chynnig.
Cerdded/beicio: Mae’r llwybr yn dechrau y tu blaen i Gastell Caerdydd ac yn dilyn llwybr yr afon Taf.
Ar y bws: Mae cysylltiadau bws rhagorol i mewn i Ganol Dinas Caerdydd, a bydd bws rhif 25 o’r dafarn The Travellers Rest yn eich dychwelyd i’r ddinas ar ddiwedd eich taith.
Ar y trên: Mae Gorsaf Caerdydd Canolog yn cynnig cysylltiadau da â gweddill y ddinas. Mae manylion y gwasanaethau trên i’w gweld yn www.nationalrail.co.uk
Mewn car: Mae sawl lleoliad ar hyd y llwybr i barcio mewn pellter cymharol hawdd o’r llwybr.