Mae tair o deithiau treftadaeth ar gael, Taith Gerfluniau gyda cherfwaith pren ar hyd y llwybr, hen ogofau mwyngloddio a Chastell Coch. Sicrhewch eich bod yn galw heibio yn Forest Stoves a Chaffi Fires rownd y gornel o fynediad Castell Coch i flasu bwyd cartref, paned a sedd gynnes ger y tân. Mae hyd yn oed peunod direidus yn yr ardd i’ch diddanu chi.
Mae Fforest Fawr yn goetir hynafol â sawl dynodiad cadwraeth naturiol, gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae amryw blanhigion yn cael eu clirio’n raddol er mwyn adfer y coetir llydanddail. Ar ddechrau’r gwanwyn mae clychau’r gog yn gorchuddio’r ddaear, yn ogystal â garlleg gwyllt, sy’n nodweddiadol o goetiroedd hynafol. Ar ddiwrnodau heulog mis Awst, edrychwch am loÿnnod byw’r brith, sy’n fawr, yn oren, ac yn sgleinio’n arian.
Un tro roedd Tongwynlais a Phentyrch yn ardaloedd diwydiannol bywiog, gyda dyddodion glo, calchfaen a haearn oll yn bresennol yno.
Yn ôl y straeon, roedd gan Syr Henry Sidney, un o wŷr llys Harri’r VIII, fwyndoddfa ger Tongwynlais yn y 1560au, y cyntaf o’i math yng Nghymru. Bu Syr Henry’n byw yng Nghymru o 1559 hyd ei farwolaeth ym 1589, a’i waith caled ef ddatblygodd diwydiant haearn de-ddwyrain Cymru.
Mae llawer o waith cloddio’n mynd rhagddo yn Fforest Fawr. Nid oes llawer o ddyddodion mwyn haearn yma, felly ni chafodd ffwrnais ei hadeiladu yma. Mae’n debyg y cafodd y calchfaen a’r mwyn haearn a gloddiwyd yma, a oedd yn hanfodol ar gyfer y broses fwyndoddi, eu cludo i safle ffwrnais Taf gan geffylau pwn ar hyd yr hen ffyrdd trol.
Roedd y gwaith cloddio yn ei anterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae’n bosibl iddo ddechrau yn y Canol Oesoedd neu hyd yn oed gyfnod y Rhufeiniaid yn ôl canfyddiadau archeolegol ar ochr arall ceunant Taf.
Cafodd y mwyngloddiau eu cau tua 1888 pan werthwyd Gwaith Haearn Pentyrch. Dirywiodd diwydiant cynhyrchu haearn yr ardal hefyd.
Ar droid/beic:
Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Castell Coch o Dongwynlais i ddechrau’r daith o faes parcio’r castell neu parhewch ar hyd Heol y Fforest gan droi i’r chwith i’r ffordd fynediad sy’n mynd â chi i faes parcio Fforest Fawr. Mae byrddau gwybodaeth am y teithiau cerdded yn y ddau fan cychwyn.
Ar y bws:
Mae’r safle bws agosaf tua 1km o’r castell ym mhentref Tongwynlais. Fe’i gwasanaethir gan wasanaeth 132 Stagecoach sy’n rhedeg bob 30 munud rhwng Caerdydd a Phontypridd. Ar ddydd Sul mae’r gwasanaeth yn rhedeg bob 60 munud http://www.traveline-cymru.info/
Yn y car:
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 32 sy’n arwain at yr A470 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Tongwynlais ac yna Castell Coch. Mae llefydd parcio ar waelod Heol y Fforest Road ac mae bwrdd gwybodaeth am y teithiau cerdded ym maes parcio Castell Coch. Fel arall, ewch yn eich blaen at faes parcio Heol y Fforest Road lle ceir bwrdd gwybodaeth arall.
Tafarndai gwledig cyfagos: The Black Cock Inn; Lewis Arms; Forest Stoves a Chaffi Fires incu.
Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r daith (neu i adrodd am unrhyw broblemau) cysylltwch â Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ar 029 2078 5200.