Dyddiad: 23/07/2025
Amser: 10:00 am - 12:30 pm
AM DDIM
(Angen archebu – manylion i ddilyn)
Fyddech chi’n hoffi dysgu sut i gasglu eich hadau blodau gwyllt eich hun?
Ymunwch â Cheidwaid Parciau Cymunedol a Phartneriaeth Natur Leol Caerdydd i ganfod sut i:
• Adnabod y blodau a’u pennau hadau
• Casglu hadau o rywogaethau gwahanol
• Storio’r hadau
• Eu hau yn y ffordd iawn i gynyddu’r siawns o flodeuo’r tymor nesaf
Cyfarfod yng Nghanolfan y Wardeiniaid, Fferm y Fforest, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7JJ
What 3 Words: https://w3w.co/motor.upon.again
Comments are closed.