Dyddiad: 15/09/2024
Amser: 10:00 am - 12:00 pm
Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd – Ffotograffiaeth Natur i Blant
Y mis hwn ymunwch â’r tîm Ceidwaid Cymunedol ar gyfer Antur Ffotograffiaeth Natur i Blant. Dewch â’ch camera neu ffôn clyfar gyda chi fel y gall y Ceidwaid eich cyflwyno i hwyl a her ffotograffiaeth natur.
Archwiliwch Fferm y Fforest drwy’r lens a dysgwch sut i dynnu lluniau da o fywyd gwyllt!
Mae Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yn gyfle i dditectifs ifanc (5-12 oed) a’u teuluoedd ddysgu am natur ymhob tymor.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant o bob oed a gallu. Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eu cyfer.
Gigwch esgidiau a dillad call.
Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Cyfarfod yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm y Fforest, Forest Farm Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd. CF14 7JJ
What3words: Canolfan Wardeniaid Fferm y Fforest – harder.lung.dishes
Maes parcio – roses.lived.garage
Tocynnau
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond sicrhewch eich bod wedi archebu tocyn ar eich cyfer chi a’ch plentyn/plant.
Os nad ydych chi’n gallu dod i’r digwyddiad mwyach, cofiwch ganslo’ch tocyn i alluogi eraill i fynychu
Comments are closed.