Dyddiad: 21/06/2025
Amser: 10:00 am - 3:00 pm
Ymunwch â’r Ceidwaid Cymunedol a Gwirfoddolwyr Cadwraeth Llaneirwg a Trowbridge (CVST) am ddiwrnod llawn hwyl yn Llyn Hendre! Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn cynnig cyfle gwych i fwynhau harddwch y llyn, dysgu am fywyd gwyllt lleol a chysylltu â’ch cymuned.
Byddwch yn greadigol gyda chrefftau natur, ewch ar helfa bwystfilod bach, a dysgwch am y creaduriaid diddorol sy’n byw yn y llyn ac o’i amgylch. Dewch i weld gwaith Gwirfoddolwyr Cadwraeth Llaneirwg a Trowbridge (CVST), gan ddysgu am yr hyn y maent yn ei wneud i ddiogelu a gwella’r amrywiaeth o gynefinoedd yn Llyn Hendre. Bydd teithiau tywys a sgyrsiau yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd, gyda chyfle i ehangu eich gwybodaeth am beillwyr ac adar.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y ddôl i’r gogledd o’r llyn, yn agos at y Gofeb Ryfel. Taith gerdded fer o’r maes parcio a mynedfa Rhodfa Nant Helyg i Lyn Hendre.
What 3 Words: https://w3w.co/bridge.faded.kinds
Comments are closed.