Dyddiad: 11/05/2024 - 12/05/2024
Amser: All Day
Dewch draw i Fferm y Fforest i ddysgu popeth am ddenu bywyd gwyllt i’ch gardd. Ni waeth pa mor fawr neu fach, gall pob gardd a gofod awyr agored fod yn hafan i fywyd gwyllt.
Mae’r sesiwn yn cynnwys taith dywys o ardd fwthyn a pherllan y ffermdy, gemau garddio a gweithgareddau i blant ac yn gorffen gyda gweithdy lle byddwch yn creu gardd fach eich hun i fynd â hi adref.
Mae’r holl ddeunyddiau a phlanhigion wedi’u cynnwys. Sylwch y bydd angen i chi allu cludo blwch plannu bach adref ar ddiwedd y digwyddiad.
Bydd hwn yn ddigwyddiad yn yr awyr agored, felly gwisgwch esgidiau a dillad addas.
Bydd hwn yn ddigwyddiad yn yr awyr agored, felly gwisgwch esgidiau a dillad addas.
Mae croeso i bob oedran a gallu ond rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw gymorth penodol arnoch.
Dydd Sadwrn 11 Mai
Bydd dwy sesiwn:
10:00 – 12:00
13:00 – 12:00
Dydd Sul 12 Mai
Bydd dwy sesiwn:
10:00 – 12:00
13:00 – 15:00
Digwyddiad am ddim – Penwythnos Garddio ar gyfer Bywyd Gwyllt / Gardening for Wildlife Weekend Tickets, Sat 11 May 2024 at 10:00 | Eventbrite
Gardening for Wildlife Weekend – Outdoor Cardiff
Comments are closed.