Dyddiad: 24/05/2025 - 25/05/2025
Amser: 10:00 am - 3:00 pm
Dyddiad: 24 Mai a 25 Mai 2025
Amser: 10:00–12:00 ac 13:00–15:00
Digwyddiad am ddim (mae angen cadw lle)
Dewch draw i Fferm y Fforest i ddysgu popeth am ddenu bywyd gwyllt i’ch gardd. Ni waeth pa mor fawr neu fach, gall gardd neu ofod awyr agored fod yn hafan i fywyd gwyllt.
Mae’r sesiwn yn cynnwys taith dywys o ardd fwthyn a pherllan y ffermdy, gemau garddio a gweithgareddau i blant ac yn gorffen gyda gweithdy lle byddwn yn creu dôl fach y gallwch fynd â hi adref.
Yn addas ar gyfer teuluoedd a garddwyr brwd. Bydd y Ceidwaid Cymunedol a’r Partneriaethau Natur Lleol (PNLau) wrth law i gynnig amrywiaeth o gyngor ac awgrymiadau i helpu i wneud eich gardd yn hafan i fywyd gwyllt.
Cyfarfod yng Nghanolfan y Wardeiniaid, Forest Farm Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7JJ.
What 3 Words: https://w3w.co/motor.upon.again
Comments are closed.