Dyddiad: 02/03/2025
Amser: 10:00 am
Amser: Cwrdd am 10.00am: Maes Parcio Isaf y Wenallt
Darganfyddwch hanes a bywyd gwyllt coetiroedd Gogledd Caerdydd.
Ymunwch â thaith dywys gyda’r Gwasanaeth Ceidwaid Cymunedol ac ymchwiliwch i orffennol yr ardal, o weddillion coetir hynafol i ddefnyddiau diwydiannol mwy diweddar. Ar hyd y ffordd, cadwch lygad allan am amrywiaeth o adar ac arsylwi’r amrywiaeth o gynefinoedd coetir sy’n dod i’r amlwg yn y Gwanwyn.
Dewch â fflasg o goffi a phecyn cinio.
Byddwn yn cwrdd ym maes marcio isaf y Wenallt. Sylwer bod y maes parcio yn fach ac yn brysur ar benwythnosau. Os nad oes lle, mae maes parcio ychwanegol ar gael ymhellach i fyny Heol y Wenallt. Cyrhaeddwch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi, byddwn yn gadael yn brydlon o’r maes parcio.
Bydd y daith gerdded hon tua 7km ac yn cymryd tua 3 awr i’w chwblhau. Mae croeso i bawb ar y daith gerdded hon ond nodwch fod y llwybr yn cynnwys ardaloedd sy’n serth ac sy’n gofyn am gerdded trwy rai amodau heriol. Argymhellir esgidiau cerdded da a dillad addas ar gyfer y tywydd.
Pa 3 gair: https://w3w.co/such.hike.ozone
Taliad: £3.50 (Taliad cerdyn yn unig – yn daladwy ar y diwrnod)
Comments are closed.