Dyddiad: 10/05/2025
Amser: 5:15 am - 7:15 am
Cwrdd: Maes Parcio Llyn Hendre, Rhodfa’r Gypreswydden, Llaneirwg, CF3 0RG
Ymunwch â’r Ceidwaid Cymunedol a Gwirfoddolwyr Cadwraeth Llaneirwg a Trowbridge (CVST) am daith gerdded arbennig yn gynnar yn y bore o amgylch Llyn Hendre a’i lonyddwch. Ymdrochwch yn seiniau hudolus côr y bore bach a phrofi pelydrau cyntaf yr heulwen wrth i’r llyn ddeffro o’i drwmgwsg.
Byddwch yn cael eich arwain gan y tîm Ceidwaid Cymunedol a gwirfoddolwyr profiadol, a fydd yn eich helpu i nodi’r gwahanol ganeuon adar a rhannu mewnwelediadau diddorol i’w hymddygiad.
Cyrhaeddwch yn brydlon yn y man cyfarfod i sicrhau nad ydych yn colli dechrau taith gerdded côr y bore bach. Gwisgwch esgidiau a dillad sy’n addas i’r tywydd. Bydd y daith gerdded yn cymryd tua 2 awr ac ni fydd yn rhy heriol. Argymhellir yn gryf eich bod yn dod â sbienddrych.
What3Words: https://w3w.co/cone.react.echo
Digwyddiad am ddim
Comments are closed.