Mae map cerdded a beicio (8mb PDF) am ddim Caerdydd yn ddelfrydol os ydych chi eisiau cynllunio eich siwrneiau cerdded a beicio yng Nghaerdydd. Gallwch gasglu map beicio mewn sawl lleoliad ledled y ddinas, gan gynnwys llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu cymunedol.
Gall seiclo fod yn ffordd gyflym, iachus a hwyliog o fynd ar daith fer ac mae llethrau hawdd Caerdydd a’r parciau mawr gwyrdd yn gwneud y ddinas yn un ddelfrydol i ddod i’w hadnabod ar gefn beic. Mae rhwydwaith seiclo Caerdydd yn ehangu a cheir nifer o lwybrau seiclo oddi-ar-y-ffordd a rennir â cherddwyr.
Heb feic?
Llogwch un o Pedal Power
Clybiau a Thraciau Seiclo
Rhagor o Wybodaeth Seiclo
Sustrans: Elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n galluogi pobl i fynd ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn amlach wrth deithio bob dydd.
Hyfforddiant Seiclo Cymru: Sefydliad dielw sy’n cynnig hyfforddiant seiclo un i un, sesiynau cynnal a chadw beiciau a sesiynau Dr Beic.