Dod o hyd i lwybr
Mae parciau a mannau gwyrdd Caerdydd yn gwneud iddi fod yn un o ddinasoedd mwyaf gwyrdd y DU.
Crwydrwch yr ystod o deithiau cerdded o deithiau 1 filltir i gerdded am bellteroedd hir yn eich milltir sgwâr! Mae’r teithiau cerdded wedi’u marcio ar hyd y ffordd, mae ganddynt daflenni unigol gan gynnwys map a gwybodaeth man cychwyn i helpu i gynllunio eich taith.
Mae Taith Taf yn mynd drwy nifer o barciau a mannau agored, felly ceir digon o deithiau cerdded ‘cylchol’. Yn eu plith mae Parc Bute, Parc Hamadryad, Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd, Parc Hailey, a Pharc Gwledig Fferm y Fforest. Dewch â phicnic gyda chi i fwynhau prynhawn heulog yn y parc. Ewch am dro ar hyd Dociau Caerdydd yn y Bae neu ewch i rwyfo ar Lyn Parc y Rhath. Ceir nifer o gyhoeddiadau sy’n manylu ar y teithiau cerdded a gallwch eu canfod ar-lein a gweld pa daith gerdded sy’n eich siwtio yn eich ardal chi.