Marchogaeth Ceffylau yng Nghaerdydd

Mae dros 2,000 o geffylau wedi eu cofrestru yng Nghaerdydd ac mae’r rhwydwaith llwybrau ceffylau yn llai na 2km o hyd felly rydym yn dibynnu yn helaeth ar lwybrau ceffylau goddefol i gysylltu â’r llwybrau tramwy sy’n bodoli. Mae’r Tîm Llwybrau Tramwy Cyhoeddus yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r Fforwm Mynediad Lleol, tirfeddianwyr a datblygiadau’r dyfodol i greu mwy o lwybrau i farchogion.

Cymdeithas Geffylau Prydain

Cymdeithas Geffylau Prydain yw’r mwyaf yn y DU a’r elusen geffylau fwyaf dylanwadol.

Diogelwch a Chyfleusterau i Farchogion Ceffylau (SAFE)

Mae Diogelwch a Chyfleusterau i Farchogion Ceffylau (Safety And Facilities for Equestrians – SAFE) yn grŵp nid er elw, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda BHS a pherchnogion tir yn ne-ddwyrain Cymru i hyrwyddo marchogaeth oddi ar y ffordd i farchogion ceffylau.

Mae SAFE wedi goruchwylio gwelliannau i lwybrau ceffylau lleol, ac agor llwybrau caniataol newydd.  Mae’r grŵp yn dibynnu’n fawr ar aelodau lleol sy’n teimlo bod angen gwelliannau yn eu hardal yn camu i’r adwy i fwrw ymlaen â’r prosiectau hynny gan ddefnyddio’r cymorth, y profiad a’r cysylltiadau o fewn y sefydliad.

Riding for the Disabled Association

Yn yr RDA, mae ein ceffylau a’n merlod yn darparu therapi, cyflawniad a mwynhad i bobl sydd ag anableddau ledled y DU.

Mae ein rhwydwaith o 500 o grwpiau gwirfoddol yn trefnu gweithgareddau fel marchogaeth, gyrru car a cheffyl, perfformio ar geffylau, neidio ceffylau, a therapi dŵr i geffylau i hyd at 28,000 o bobl bob blwyddyn.

Dod o hyd i grŵp:

Rydym yn cynnig gweithgareddau i bob grŵp oed a, lle bo hynny’n bosibl, i bobl ag unrhyw anabledd – ac rydych yr un mor debygol o ddod o hyd i grŵp RDA mewn lleoliad trefol ag ydych mewn man gwledig.

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd