Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried gwneud cytundeb cyfreithiol gyda Meysydd Chwarae Cymru.
Mae Meysydd Chwarae Cymru yn elusen annibynnol sy’n gwarchod parciau a mannau gwyrdd yn gyfreithlon ledled y DU. Ei Rhif Elusen yw 306070 (Cymru a Lloegr).
Mae’r Cyngor yn ystyried gwarchod 11 o safleoedd drwy’r cytundeb hwn – a elwir hefyd yn ‘weithred gyflwyno’. Y rhain yw:
- Parc y Fynwent yn Adamsdown,
- Rhodfa Craiglee yn Butetown,
- Parc Trelái yng Nghaerau,
- Parc y Sanatoriwm yn Nhreganna,
- Parc Rhydypennau yng Nghyncoed,
- Parc y Tyllgoed yn y Tyllgoed,
- Parc Hailey yn Ystum Taf,
- Parc Waun Fach ym Mhentwyn,
- Parc Westfield ym Mhentyrch a Sain Ffagan,
- Heol Llanisien Fach yn Rhiwbeina, a
- Pharc Caerllion yn Trowbridge.
Mae Cae Rec Creigiau a Chae Chwarae Pentref Llaneirwg hefyd yn cael eu gwarchod yn y modd hwn. Mae’r safleoedd hyn yn cael eu rheoli gan gynghorau cymuned lleol.
Blaenoriaethu parciau a mannau gwyrdd
Rhaid i dirfeddianwyr fodloni sawl maen prawf er mwyn i Meysydd Chwarae Cymru warchod eu parciau a mannau gwyrdd, sy’n cynnwys:
- perchenogaeth o’r man, bod â buddiant rhydd-ddaliad neu fuddiant lesddaliad o 99 mlynedd neu fwy,
- rhaid i’r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd corfforol anffurfiol a hamdden, neu chwaraeon ffurfiol,
- rhaid i’r safle fod yn 0.2 hectar o leiaf, a
- rhaid bod rhyw fath o fynediad parhaol i’r cyhoedd at y safle.
Wrth flaenoriaethu safleoedd i’w gwarchod, gwnaethom hefyd ystyried:
- ardaloedd o’r ddinas sydd â’r lefelau isaf o fannau gwyrdd (gan y byddai colli’r rhain yn y dyfodol o bosibl yn gwaethygu’r sefyllfa),
- ardaloedd o’r ddinas lle mae lefelau uwch o dlodi,
- ardaloedd o’r ddinas nad oes ganddynt safle sy’n eiddo i’r Cyngor wedi’i ddiogelu gan Meysydd Chwarae Cymru ar hyn o bryd, a
- safleoedd sy’n cynnwys mannau agored gweithredol (man agored wedi’i gynllunio ar gyfer chwarae, chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol).
Os nad yw eich parc neu fan gwyrdd lleol wedi’i warchod ar hyn o bryd neu os nad yw ar y rhestr o’r safleoedd i’w gwarchod, mae hyn yn golygu bod safleoedd eraill yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth uwch. Nid yw hyn yn golygu bod y Cyngor yn bwriadu datblygu eich parc neu fan gwyrdd lleol, neu na fydd yn cael ei warchod yn y dyfodol.
Amodau’r cytundeb
Os bydd y Cyngor yn ymrwymo i’r cytundeb, dim ond at ddibenion annog gweithgareddau hamdden a hamdden awyr agored y bydd yn gallu datblygu’r safle. Er enghraifft:
- gosod maes chwarae neu gae 3G, neu
- adeiladu ystafelloedd newid.
Byddai angen caniatâd Meysydd Chwarae Cymru ar unrhyw newidiadau y tu hwnt i’r dibenion hyn. Er enghraifft, cynigion i:
- brydlesu’r tir, neu
- werthu’r tir ar gyfer datblygu.
Mae gan nifer cyfyngedig o sefydliadau hawliau datblygu statudol sy’n diystyru hawliau tirfeddianwyr. Er enghraifft:
- cwmnïau cyfleustodau, a
- rhwydweithiau rheilffordd.
Ni all y Cyngor, fel unrhyw dirfeddiannwr arall, atal datblygiadau o’r math hwn. Ni fyddai Meysydd Chwarae Cymru yn gallu atal y rhain yn y dyfodol chwaith, hyd yn oed pe bai’n gwrthwynebu.
Nid yw gweinyddiaeth bresennol y Cyngor ym mis Mehefin 2024 yn bwriadu datblygu unrhyw barciau na mannau gwyrdd. Fodd bynnag, heb y cytundeb hwn, ni all warantu y byddai hyn yn aros yr un fath pe bai gweinyddiaeth wahanol yn cael ei hethol yn y dyfodol. Byddai gwarchod y safleoedd hyn nawr yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fannau gwyrdd cyhoeddus yn y dyfodol.
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 2 Medi 2024.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda phenderfyniad terfynol ar ddiogelu rhagor o safleoedd trwy gontract gyda Fields in Trust.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Meysydd Chwarae Cymru neu darllenwch Cwestiynau Cyffredin Fields in Trust ar ein gwefan Newyddion Caerdydd.