Dysgu yn yr awyr agored mewn parciau a mannau gwyrdd

Gyda 10% o gyfanswm arwynebedd tir Caerdydd wedi’i orchuddio gan barciau a mannau gwyrdd, mae’r ddinas yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau addysgol unigryw.

Fel un o’r dinasoedd gwyrddaf yn y DU, mae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o dirweddau i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau. Mae’n gartref i lawer o’r canlynol:

  • parciau y Faner Werdd,
  • safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig,
  • safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth natur,
  • parciau gwledig (gan gynnwys Fferm y Fforest a Pharc Cefn Onn), a
  • gwarchodfeydd natur lleol.

Mae cynllun Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r mannau gwyrdd gorau.

School group bug hunting

Pam defnyddio parciau a mannau gwyrdd ar gyfer dysgu?

Gall cyflwyno plant i’r amgylchedd naturiol eu hannog i ymddiddori yn y byd o’u cwmpas. Gall yr amgylchedd dysgu awyr agored ddarparu profiadau unigryw a gwahanol i’r ystafell ddosbarth. Mae’n:

  • llai strwythuredig
  • heb fod yn gyfyngedig i dir yr ysgol,
  • yn amlsynhwyraidd, ac yn fwy hamddenol.

Gall hyn ddylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiad plentyn, gan ei annog i fod yn dawelach a chanolbwyntio’n well. Mae ein lleoedd awyr agored hefyd yn cynnig cyfle i blant:

  • wneud cysylltiadau y tu allan i’r ystafell ddosbarth tra’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth mewn ffordd ystyrlon, a
  • datblygu sgiliau fel meddwl yn greadigol, datrys problemau a myfyrio.

Byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod plant yn cael hwyl wrth ddysgu yn ein gofodau. Gall ein tîm gwybodus, hawdd mynd atynt a phroffesiynol:

  • gefnogi eu dysgu a’u dealltwriaeth o blanhigion ac anifeiliaid,
  • helpu i ddangos sut mae natur yn hanfodol i’n bodolaeth ein hunain.

Ble mae fy mharc neu fan gwyrdd lleol?

Gallwch chwiliwch ein rhestr lawn o barciau a mannau gwyrdd yn ôl enw, lleoliad neu gyfleusterau.

Cadw lle a gwybodaeth am sesiynau dysgu yn yr awyr agored

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sesiynau ar gyfer:

Gallwn ddylunio cynlluniau sesiynau i ddiwallu anghenion grwpiau a galluoedd oedran gwahanol ar gais.

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd