Rydym yn cynnig sesiynau gyda’r nos ac ar benwythnosau ar gyfer grwpiau wedi’u trefnu. Er enghraifft:
- brownis,
- sgowtiaid, neu
- glybiau ar ôl yr ysgol.
Cynhelir y sesiynau hyn gan ein Ceidwaid Cymunedol a’n Swyddogion Addysg.
Nodwch fod sesiynau clwb a grwpiau wedi’u trefnu ar gyfer grwpiau sydd â 15 o blant o leiaf.
Rydym wedi casglu enghreifftiau o’r gweithgareddau a’r pynciau mwyaf poblogaidd. Gallwn gynnal rhai o’r rhain mewn parc neu fan gwyrdd yn agos at eich lleoliad.
- Hyd: 2 i 2.5 awr.
- Gweithgareddau – £3 y plentyn