Rydym yn cynnig cyrsiau 1 diwrnod ar gyfer addysgwyr.
Amcanion y cwrs
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y rhai sydd wedi’i ddilyn:
- yn deall prif egwyddorion a manteision dysgu yn yr awyr agored
- wedi magu hyder yn addysgu yn yr awyr agored
- yn mynd â syniadau a gweithgareddau gyda nhw ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a chysylltu â’r cwricwlwm
- yn adnabod a deall rôl addysgwyr yn yr awyr agored
- yn adnabod rhwystrau i ddysgu yn yr awyr agored a chynllunio ar gyfer sut i’w goresgyn
- yn trafod asesiadau risg a sut i reoli diogelwch mewn lleoliadau awyr agored
Archebu lle
Archebwch le i ddysgu am ffyrdd mwy creadigol o addysgu.
Dyddiadau 2025
- Dydd Mawrth 25ain Mawrth
Pris: £65 y person
Amser: 9.30am i 3.30pm
Lleoliad:
Fferm y Fforest
Longwood Drive
Ffordd Fferm y Fforest
Caerdydd
CF14 7HY
Cysylltwch â ni i archebu lle.
E-bost: ParciauIDdysgu@caerdydd.gov.uk