Dysgu yn yr awyr agored i grwpiau ysgol

Rydym yn cynnig sesiynau addysgol ar gyfer grwpiau ysgol.

Rydym wedi casglu enghreifftiau o’r gweithgareddau a’r pynciau mwyaf poblogaidd. Gallwn gynnal rhai o’r rhain mewn parc neu fan gwyrdd yn agos at eich ysgol.

Sesiynau dan Arweiniad Ceidwaid Cymunedol neu Swyddogion Addysg

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

Any

Gwybodaeth ychwanegol

Archwilio cynefinoedd a chasglu anifeiliaid di-asgwrn cefn. Byddwn yn dysgu sut i drin anifeiliaid gyda pharch a gofal, yn ogystal â sut i ddefnyddio:

  • allwedd,
  • chwyddwr i adnabod y creaduriaid, a
  • siartiau adnabod.

Tymor

Unrhyw un (mis Mai i fis Medi yn ddelfrydol)

Lleoliad

Unrhyw un

Gwybodaeth ychwanegol

Gan ddod yn dditectifs coetir i ddarganfod beth sy’n byw yn y parc, bydd plant yn chwilio am arwyddion anifeiliaid, fel traciau, plu, bwyd a thyllau mewn coed.

Gall plant ddysgu am anifeiliaid y parc, fel gwiwerod, gwaddod ac adar a darganfod pam eu bod yn byw yn eu cynefin.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Tŷ Gwydr Parc y Rhath

Gwybodaeth ychwanegol

Taith o amgylch y tŷ gwydr i ddarganfod planhigion y goedwig law a sut mae pobl frodorol yn eu defnyddio.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Tŷ Gwydr Parc y Rhath

Gwybodaeth ychwanegol

Taith o amgylch y tŷ gwydr i ddarganfod y planhigion bwytadwy o bob cwr o’r byd, fel orennau, coffi a fanila.

Tymor

Mis Ebrill neu fis Mai a mis Medi neu fis Hydref

Lleoliad

Fferm y Fforest neu Parc Bute

Gwybodaeth ychwanegol

Dysgu adnabod gwrychoedd a phlanhigion coetir a’u defnydd mewn coginio modern.

  • Mae’r gwanwyn yn amser i egin ifanc fel garlleg, mwstard a chraf y geifr.

Mae’r hydref yn amser i gynaeafu cnau ac aeron.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

Botaneg y Rhath neu Barc Bute

Gwybodaeth ychwanegol

Dysgu am rai o’n coed anarferol, o ble maen nhw’n dod ac ar gyfer beth maen nhw’n cael eu defnyddio. Mae Gardd Fotaneg y Rhath a Pharc Bute yn erddi coed, neu’n gasgliadau o goed arwyddocaol.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Unrhyw un

Gwybodaeth ychwanegol

Archwilio coed ac ateb cwestiynau fel:

  • Beth yw coeden?
  • Beth sy’n byw mewn coed?
  • Beth yw gardd goed?
  • Beth sy’n gwneud coeden gampus?
  • Pa goed sy’n fytholwyrdd, a pha rai sy’n gollddail?

Gall plant gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â choed, gan gynnwys:

  • archwilio dail,
  • rhwbio rhisgl, ac amcangyfrif oedran rhai o’r coed.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Unrhyw un (Parc Bute, Fferm y Fforest a Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd yn ddelfrydol)

Gwybodaeth ychwanegol

Adnabod rhywogaethau adar, dysgu:

  • pam eu bod yn byw yn y parc, a
  • sut maen nhw’n goroesi.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

  • Fferm y Fforest
  • Parc Bute
  • Parc Llanisien
  • Parc Cefn Onn
  • Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd
  • Gerddi Melin y Rhath

Gwybodaeth ychwanegol

Chwilota yn yr afon o draeth ar Afon Taf i chwilio am greaduriaid sy’n byw yno.

Neu, chwilota mewn pyllau i chwilio am greaduriaid sy’n byw yno.
Gall plant archwilio ac adnabod yr hyn y maent yn dod o hyd iddo. Gallant gofnodi’r math o greaduriaid a niferoedd pob rhywogaeth i weld pa mor iach yw’r afon neu’r pwll.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

Unrhyw barc gyda dolydd

Gwybodaeth ychwanegol

Trwy astudio planhigion i ddod yn fotanegwyr, gall plant:

  • adnabod planhigion sy’n blodeuo, a dechrau ymchwilio a deall cylch bywyd planhigyn – o hedyn, i flaguryn i flodyn i ffrwyth.

Tymor

Mis Mawrth i fis Mehefin

Lleoliad

Unrhyw un

Gwybodaeth ychwanegol

Chwilio am arwyddion o’r gwanwyn fel:

  • blodau’r gwanwyn,
  • blodau, a
  • bywyd newydd neu gylchoedd bywyd.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Parc Bute, Parc Hailey

Gwybodaeth ychwanegol

Defnyddio gwaith tîm i ddysgu:

  • beth yw map,
  • sut i ddefnyddio map a chwmpawd i lywio o amgylch cwrs cyfeiriannu syml, a
  • sut i ddilyn cyfarwyddiadau a chydweithio.

Gall plant weithio gyda’i gilydd i ddatrys yr heriau a dod o hyd i’r ‘trysor’ sydd wedi’i guddio yn y parc.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Unrhyw un

Gwybodaeth ychwanegol

Gan archwilio’r parc trwy gemau a gweithgareddau, bydd plant yn defnyddio deunyddiau naturiol i:

  • greu oriel gelf rhisgl,
  • llunio helfa sborion, a
  • chwblhau her tŵr brigau.

Cyfle i weithio ar sgiliau cyfathrebu ac adeiladu tîm.

Tymor

Unrhyw un

Lleoliad

Unrhyw un

Gwybodaeth ychwanegol

Archwilio’r parc yn chwilio am syniadau i gasglu a defnyddio deunyddiau naturiol.

Gall plant hefyd nodi ac archwilio lliw, gweadau, siâp a phatrymau ym myd natur trwy weithgareddau.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

Parc Bute

Gwybodaeth ychwanegol

Gall plant archwilio’r parc a chwilio am y cliwiau a nodir yn y stori i helpu i ddod o hyd i Gerry a’i ffrindiau.
Trwy chhwarae gemau a datblygu sgiliau daearyddol, gall plant hefyd wella eu gwybodaeth am yr ardal leol.

Bydd angen iddynt fod yn gyfarwydd â’r llyfr ymlaen llaw.

Tymor

Mis Mai i fis Medi

Lleoliad

Unrhyw un

Gwybodaeth ychwanegol

Darganfod byd peillwyr a sut maen nhw’n bwysig i’r amgylchedd.
Gall plant drafod gwenyn ac ateb cwestiynau fel:

  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwenyn mêl, gwenyn unig a chacwn?
  • Sut mae gwenyn mêl yn gwneud mêl?
  • Beth mae gwenyn yn ei fwyta?

Mae asesiad risg yn cael ei gynnal o’r holl weithgareddau. Byddwn yn anfon asesiadau risg a chanllawiau atoch ar gyfer cynllunio eich ymweliad wrth gadarnhad eich archeb.
Byddwn yn darparu’r holl adnoddau ac offer ar gyfer y sesiynau hyn.

Gallwn hefyd ddarparu cynlluniau sesiwn manylach a phenodol yn seiliedig ar eich pwnc neu’ch maes.

Os na allwch weld rhywbeth rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.

Cadw lle

Gweld prisiau ac amseroedd ar gyfer sesiynau grŵp ysgol.

Pecyn hanner diwrnod

  • Pris: £109 i hyd at 30 disgybl.
  • Amser: 9:30am i 12 hanner dydd, neu 10am i 12:30pm.

Pecyn diwrnod llawn

  • Pris: £163 i hyd at 30 disgybl.
  • Amser: 9:30am i 2:30pm gydag awr o egwyl i ginio.

Os hoffech ddod â mwy na 30 o blant ar ymweliad, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Cysylltwch â ni i gadw lle. Gallwn drafod eich ymweliad a sut y gallwn eich helpu i gael y gorau ohono.

E-bost: ParciauIDdysgu@caerdydd.gov.uk

School group bug hunting
Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd