Fferm Fforest a Melin Gruffydd

Ynglŷn â Fferm Fforest a Melin Gruffydd

Ar lannau Afon Taf, tua’r de o draffordd yr M4, mae Fferm Fforest yn llawn rhyfeddodau. Mae rhannau o Gamlas Morgannwg gynt yn dal i fod yma ac mae amrywiaeth eang o gynefinoedd yn cynnwys coetir, prysg, dôl wair, pyllau a chors. Mae Llwybr Taf yn mynd trwy’r safle a thua’r de mae Pwmp Dŵr Melin Gruffydd wedi ei adfer, sy’n grair o orffennol diwydiannol yr ardal.

Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Fforest yn gartref i Wasanaeth Wardeniaid Parc Cymunedol Caerdydd ac mae’n safle hyb ar gyfer gwirfoddoli amgylcheddol trwy barciau a mannau gwyrdd y ddinas.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Ewch i dudalen Facebook ‘Wild about Cardiff ’ i gael gwybodaeth ddiweddar am fywyd gwyllt lleol a gweithgareddau Wardeniaid Cymunedol yn Fferm Fforest a thrwy Gaerdydd.

Mae gwefan Cyfeillion Fferm Fforest yn rhoi gwybodaeth am eu rhaglen weithgareddau.

Mae’r parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Nodweddion

  • Cuddfannau adar Mae’r safle’n un o’r llefydd gorau yn y DU i weld glas y dorlan yn ei gynefin.
  • Canolfan gadwraeth Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau rheolaidd ar raglen Digwyddiadau’r Parc
  • Llwybr Taf i Ganol Dinas Caerdydd a Chastell Coch
  • Cyfleoedd gwirfoddoli Mae dyddiau gweithio rheolaidd a gweithgareddau cadwraeth ar gael ar y safle, mewn cydweithrediad â Chyfeillion Fferm Fforest. Mae’r Gwasanaeth Warden Cymunedol hefyd yn trefnu dyddiau gwaith ar gyfer sefydliadau eraill a gwirfoddolwyr unigol.
  • Tai bach – Nid oes tai bach cyhoeddus yn Fferm Fforest; fodd bynnag mae rhai ar gael ar ddyddiau digwyddiadau.
  • Taith Fforio Bywyd Gwyllt: i blant (lawrlwytho taflen)
  • Gwarchodfa Natur Leol Camlas Morgannwg Rhannau’r gamlas a welir yn Fferm Fforest yw unig rannau o Gamlas Morgannwg 1790 sy’n dal i fod. Chwiliwch am hwyaid gwyllt, ieir dŵr, cotieir, gleision y dorlan a gweision y neidr.
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Coed Hir yw un o’r coedwigoedd bedwen mwyaf gorllewinol yn y DU.
  • Pwmp Dŵr Melin Gruffydd Gosodwyd hwn yn y 1790au i godi dŵr o’r llif cyflym a oedd yn gadael gwaith tun Melin Gruffydd i Gamlas Morgannwg.

Cyfleusterau

  • Cuddfannau adar
  • Canolfan gadwraeth Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau rheolaidd ar raglen Digwyddiadau’r Parc 
  • Llwybr Taf i Ganol Dinas Caerdydd a Chastell Coch
  • Cyfleoedd gwirfoddoli Mae Cyfeillion Fferm Fforest yn trefnu dyddiau gwaith a gweithgareddau cadwraeth
  • Toliedau – Ar gael ar gyfer digwyddiadau

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Canolfan Gadwraeth Fferm y Fforest 51.517286, -3.243540
Pwmp dŵr Melin Gruffydd 51.512100, -3.237635

What3words: boxing.sweep.cheeks

Darganfod y parc

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd