Dyma rai gemau syml llawn hwyl i chi eu chwarae gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
- Un person i fod yn Mr Blaidd. Mr Blaidd i fynd i pen arall yr ystafell neu’r cae chwarae heb gwynebu y chwaraewr.
- Chwaraewr yn gweddi “beth yw’r amser Mr Blaidd”. Mr Blaidd yn ateb mewn un ffordd o ddau.
- Falle amser cloc sef “ 3 o’r gloch”. Chwaraewr yn cymryd 3 cam ymlaen. Mr Blaidd falle yn dweud yr amser cwpwl o weithiau a pawb yn camu ymlaen.
- Neu fydd Mr Blaidd yn gweiddi “Amser cinio”
- Mr Blaidd yn troi rownd ac yn ceisio dal un o’r chwaraewr cyn iddyn nhw cyrraedd y man dechrau.
- Os yn ei dal, nhy fydd Mr Blaid yn y gêm nesaf.
Bydd angen y canlynol arnoch
- Bat
- Pêl
- Penderfynwch pwy fydd chwaraewr 1, chwaraewr 2 a’r chwaraewyr maes
- Chwaraewr 1 i daflu’r bêl, rhaid i chwaraewr 2 ddefnyddio’r bat i daro’r bêl
- Mae’r chwaraewyr maes yn dal y bêl ac yn anelu at daflu’r bêl at goesau’r batiwr. Os bydd y chwaraewyr maes yn colli coesau’r batiwr, rhaid iddynt barhau i geisio wneud hynny. Os ydynt yn llwyddo i daro coesau’r batiwr gyda’r bêl, mae’r batiwr allan a’r sawl sy’n taro coesau’r batiwr yw’r nesaf i fatio.
Beth bydd ei angen?
- Llinyn
- Siswrn
- Mwgwd i’r llygaid
- Defnyddiwch linyn i greu drysfa gyda gwahanol uchderau. Gallwch wneud hyn yn eich gardd neu mewn parc.
- Rhowch gyfle i’r chwaraewr edrych ble mae’r llinynnau. Ar ôl i’r chwaraewr edrych, rhowch fwgwd dros ei lygaid, yna torrwch rai o’r llinynnau neu eu gadael i gyd yr un peth i ddrysu’r chwaraewr.
- Dylai chwaraewr 2 ddefnyddio ei lais i gyfeirio’r person sy’n gwisgo’r mwgwd, gan roi cyfarwyddiadau fel ‘cama drosodd, cama o dan a cherdda ‘mlaen’.
- Mae angen i chwaraewr 1 ei gwneud hi o un ochr i’r ddrysfa i’r llall gyda chymorth chwaraewr 2 tra’i fod yn gwisgo’r mwgwd.
- Mae un person yn cael ei ddweud i fod yn Dai, a’r lleill yw’r chwaraewyr
- Gan sefyll gerbron y grŵp, mae Dai yn dweud wrth y chwaraewyr beth i’w wneud
- Ond, caiff y chwaraewyr ond dilyn cyfarwyddiadau sy’n dechrau â’r geiriau “Mae Dai yn dweud”
- Os yw Dai yn dweud “Mae Dai yn dweud cyffyrddwch â’ch trwyn” yna rhaid i chwaraewyr gyffwrdd eu trwynau.
- Ond yw Dai ond yn dweud “Cyffyrddwch â’r trwyn” ddylech chi ddim cyffwrdd â’ch trwyn
- Mae’r rhai sy’n gwneud rhywbeth heb i Dai ddweud “Mae Dai yn dweud…” yn gyntaf allan o’r gêm.
- Y person olaf ar ôl yw’r enillydd a nhw fydd Dai yn y gêm nesaf
- Penderfynwch pwy fydd chwaraewr 1 a phawb arall i eistedd mewn cylch
- Chwaraewr 1 i fynd o amgylch y cylch a thapio pen pob chwaraewr gan ddweud “Hwyden”. Rhaid i’r chwaraewr ddewis rhywun i’w herio a dweud “Gŵydd” wrth dapio ei ben
- Yna, rhaid i’r ddau chwaraewr redeg o amgylch y cylch a’r chwaraewr cyntaf yn ôl i’r gofod gwag sy’n ennill.
- Y chwaraewr olaf sy’n sefyll yw’r chwaraewr nesaf i fod yn chwaraewr un
Syniadau ar gyfer chwarae a gweithgareddau
Yn y Gwasanaethau Chwarae i Blant, rydym wedi llunio rhai syniadau a gweithgareddau chwarae ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae yna lawer o wahanol syniadau gan gynnwys chwarae thematig, celf a chrefft, taflenni gweithgareddau, gemau yn cynnwys geiriau, posau, gemau awyr agored a dan do.
Gwyliwch y gweithgareddau ar Caerdydd.gov.uk