Ynglŷn â Gwarchodfa Natur Leol Howardian
Mae’r hen safle tirlenwi hwn wedi ei ddatblygu’n noddfa bywyd gwyllt mewn partneriaeth â grwpiau lleol. Mae hen gynefin y foryd yn brif nodwedd yn y Warchodfa ond mae’r safle 13 hectar (32 erw) hefyd yn cynnwys coetir, dôl, gwlyptir a phyllau, sy’n gartrefi i dros 500 rhywogaeth bywyd gwyllt.