Ynglŷn â Llys Insole
Mae’r ardd unigryw gradd 2 hon yn cynnwys ystod drawiadol o addurniadau ac mae’n rhan o dir plasty Llys Insole .
Daeth y tŷ a’r gerddi i feddiant Cyngor Caerdydd ym 1932 fel rhan o’r tir yr oedd ei angen i adeiladu Western Avenue. Yn 2011, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Llys Insole i gadw a diogelu’r eiddo a ailagorwyd yn 2016 yn dilyn adnewyddu a ariannwyd gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r Ymddiriedolaeth nawr yn rheoli’r adeiladau ond cyfrifoldeb y Gwasanaethau Parciau yw’r tiroedd o hyd.