Llogi sgwteri Tramper ym Mharc Cefn Onn
Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, rydyn ni wedi ymuno â Countryside Mobility, i ddarparu dau sgwter symudedd sy’n addas ar gyfer pob math o dir i’w llogi. Mae’r rhain ar gael un diwrnod yr wythnos ar ddyddiadau penodol.
Maen nhw’n ddiogel ac yn hawdd eu defnyddio, hyd yn oed os nad ydych wedi gorfod defnyddio sgwter o’r blaen.
Gall archebion gael eu gwneud drwy e-bostio CeidwaidParciauCymunedol@caerdydd.gov.uk. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt a’r amser, y dyddiad, a pha mor hir yr hoffech logi’r Tramper
Gall fod yn bosibl cael un heb archebu o flaen llaw, yn dibynnu ar argaeledd ar y dyddiadau llogi penodol.
Gyda 2 lwybr ar gael drwy’r parc, gallwch gerdded o’i gwmpas i gyd mewn awr. Os yw’n well gennych chi gyflymder mwy hamddenol, rydym yn argymell cymryd o leiaf 2 awr.
I logi sgwter Tramper, bydd angen i chi ymaelodi gyda Countryside Mobility. Gellir defnyddio’r aelodaeth ym mhob lleoliad Countryside Mobility arall hefyd.
Dewisiadau aelodaeth:
- 12 mis – £15 (delfrydol ar gyfer ymweliadau mynych â’r parc a lleoliadau eraill Countryside Mobility).
- Pythefnos – £5
- Defnydd untro – £3
Mae ffi llogi ychwanegol o £2.50 yr awr – mae hyn yn helpu i dalu costau cynnal y gwasanaeth. Bydd taliadau cardiau yn cael eu cymryd wrth gyrraedd.
Gellir llogi Trampers rhwng 10am a 2:30pm ar y dyddiadau hyn:
2025
- Dydd Sadwrn 08 Mawrth
- Dydd Mercher 12 Mawrth
- Dydd Gwener 21 Mawrth
- Dydd Sadwrn 22 Mawrth
- Dydd Mercher 26 Mawrth
- Dydd Sadwrn 29 Mawrth
Dydd Sadwrn 5 Ebrill
Dydd Llun 7 Ebrill
Dydd Mercher 16 Ebrill
Dydd Sadwrn 26 Ebrill
Dydd Sadwrn 3 Mai
Dydd Mercher 14 Mai
Dydd Mawrth 20 Mai
Dydd Sadwrn 31 Mai
Dydd Sadwrn 7 Mehefin
Dydd Mercher 11 Mehefin
Dydd Mercher 18 Mehefin
Dydd Sadwrn 28ain Mehefin
Dyddiadau eraill i’w cadarnhau