Parc Fictoria

Pad Sblasio ar gau

Mae’n ddrwg gennym orfod dweud, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, y bydd Pad Sblasio Parc Fictoria ar gau am weddill y tymor. Mae hyn oherwydd methiannau gyda’r pympiau swmp sy’n bwydo’r nodwedd dŵr a’r pwmp sy’n dosbarthu clorin. Er gwaethaf archwilio pob opsiwn gyda chontractwyr, ni fydd y rhannau angenrheidiol o Ewrop ar gael tan yr hydref.

Rydym yn deall pa mor siomedig fydd hyn i’n hymwelwyr ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Bydd y pad Sblasio yn gweithredu fel arfer mewn pryd ar gyfer tymor agoriadol yr haf nesaf.

Ynglŷn â Parc Fictoria

Parc Fictoria yw un o hoff barciau traddodiadol Caerdydd. Agorwyd ym 1897 , mae’r parc ym maestref gorllewinol Treganna. Mae ei forderi blodau ac ystod eang o gyfleusterau’n apelio at bobl o bob oed trwy’r flwyddyn.

Bu’r parc yn un o’r cyntaf yn y DU i gael grant adfer gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ym 1995.

Mae Parc Fictoria yn un o barciau Baner Werdd y ddinas.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor o 7.30am tan 30 munud cyn y machlud trwy’r flwyddyn.

Parcio: Nid oes man parcio penodol – mae parcio ar y stryd ar gael yn y strydoedd o amgylch y parc.

Nodweddion

  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2: Mae’r parc ar gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Stand bandiau haearn bwrw: Fe’i gosodwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror 1897 a gosodwyd copi wedi ei ail-fwrw ym 1996.
  • Canopi pistyll haearn bwrw: Fe’i cyflwynwyd gan I. Samuel Ysw er cof am ei rieni a’i frawd, Louis Samuel, AS, ym 1908; mae hwn yn un o nifer a gyflwynodd i barciau rhwng 1907 a 1915. Cafodd y canopi ei adfer a’i adleoli i’w safle presennol ym 1996.
  • Cerflun Billy’r morlo: Cerflun efydd a grëwyd ym 1997 gan yr artist David Petersen, sy’n coffau Sŵ Parc Fictoria a thrigolyn enwocaf y parc.

Cyfleusterau

  • Cae chwarae ar gyfer plant hyd at tua 12 oed
  • Ardal chwarae sblasio i blant: Ar agor yn dymhorol – ceir y manylion isod
  • Clwb Pêl Foli Traeth
  • Ardal gemau aml-ddefnydd: ar agor trwy’r flwyddyn – dim cost
  • Ciosg lluniaeth Ar agor trwy’r flwyddyn
  • Cyrtiau tenis: ar agor trwy’r flwyddyn – heb gost
  • Toiledau cyhoeddus a cyfleusterau newid cewynnau: ger y man chwarae i blant.

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Prif fynedfa (Victoria Park Road East – hefyd ar gyfer danfon nwyddau) 51.486082, -3.216633
Gât y dwyrain (Victoria Park Road East) 51.484284, -3.217405
Gât y de ddwyrain (Heol Ddwyreiniol y Bont Faen) 51.482902, -3.217564
Gât y gorllewin (Victoria Park Road West) 51.484353, -3.219916
Gât y de orllewin (Heol Ddwyreiniol y Bont Faen) 51.483145, -3.219026
Gât y gogledd orllewin (Thompsons Avenue) 51.486204, -3.220584

What3words: moons.sports.trip

Darganfod y parc

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd