Ynglŷn â Pharc y Rhath
Parc y Rhath, a agorwyd ym 1894 oedd un o’r parciau cyhoeddus cyntaf yng Nghaerdydd ac mae’n cadw ei awyrgylch Fictoraidd clasurol a chynllun y parciau llinellol llawn cymeriad sy’n mynd ar hyd Nant Fawr.
Mae pob rhan o’r parc wedi ei ddylunio at ddiben penodol ac mae’r parc yn dal i gynnig ystod eang o ddiddordeb garddwriaethol, cadwraeth natur a gweithgareddau i hyfrydu ymwelwyr heddiw.
Mae Parc y Rhath yn un o barciau Baner Werdd y ddinas.