Mae’r tŷ gwydr ym Mharc y Rhath wedi’i gynhesu ac mae’n cynnwys llawer o rywogaethau anarferol o blanhigion a choed, megis:
- palmwydd,
- coed banana,
- tegeirianau, a
- blodyn ystlum.
Mae’r tŷ gwydr ym Mharc y Rhath wedi’i gynhesu ac mae’n cynnwys llawer o rywogaethau anarferol o blanhigion a choed, megis:
Mae gan y tŷ gwydr raeadr a phwll sy’n gartref i’r canlynol:
Mae’r tŷ gwydr hefyd yn gwerthu bwyd adar ar gyfer bwydo’r elyrch a’r hwyaid ar y llyn, nwyddau tymhorol, planhigion ac ategolion.
Mae’r tŷ gwydr a’r tiroedd yn cael eu cefnogi gan Gyfeillion Parc y Rhath.
Haf: 10:30am tan 4pm bob dydd.
Gaeaf: 10:30am tan 3pm bob dydd.
Mae’r tŷ gwydr ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan.
Archebion grŵp: cysylltwch â ni i drefnu archeb grŵp.
mweliadau ysgol: Rydyn ni’n cynnig sesiynau addysg i ysgolion yn y tŷ gwydr.
Gallwch barcio ar y stryd yn yr ardal gyfagos.
Mae’r tŷ gwydr wedi’i leoli i’r de o Barc y Rhath yn y gerddi botaneg.
Pwynt mynediad | GPS (lledred a hydred) |
---|---|
Tŷ Gwydr Parc y Rhath | 51.503751 / -3.175237 |
Mynedfa Heol Orllewinol y Llyn | 51.503574 / -3.175936 |
Mynedfa Heol Ddwyreiniol y Llyn | 51.502962 / -3.174084 |
Dewch o hyd i ni drwy ddefnyddio What3words: pasiodd.bachaf.masgiau
Rhwng 1973 a 1974, dyrannodd y Pwyllgor Parciau oddeutu £20,000 i adeiladu’r tŷ gwydr ym Mharc y Rhath.
Agorwyd y tŷ gwydr tua haf 1975. Fe’i hadeiladwyd ar safle 2 dŷ gwydr hanesyddol y parc:
Roedd y rhain hefyd yn cael eu hadnabod fel y Tŷ Planhigion Newydd a’r Tŷ Trofannol.
Ym 1988, rhoddwyd ffenestri polycarbonad triphlyg yn lle’r ffenestri gwydr gwreiddiol. Roedd y deunydd hwn yn cael ei ystyried yn fwy diogel na’r ffenestri gwydr, a allai dorri’n hawdd.
Roedd y gwaith newydd i sicrhau arbedion ar gostau gwres, felly fe’i hariannwyd yn rhannol gan Raglen Cadwraeth Ynni y Cyngor. Amcangyfrifwyd y byddai o leiaf 26% o arbedion bob blwyddyn.
Pan agorodd, cost mynediad oedd 5c y person.