Mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd ledled y byd sy’n cael eu rheoli’n dda, gan amlygu rhagoriaeth a gosod safonau.
Mae Caerdydd yn gartref i 22 o safleoedd Baner Werdd, gan gynnwys 20 o safleoedd sy’n cael eu rheoli gan y cyngor a dau safle sy’n cael eu rheoli’n breifat.
Mae ein tîm Parciau yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i reoli safleoedd a rhoi cynlluniau llym ar waith, gan fod pob safle a ddyfernir yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pob safle’r Faner Werdd yn cynnal ei safonau eithriadol, gan gynnig mannau hardd sy’n derbyn gofal da lle:
- gall cymunedau ddod at ei gilydd,
- gall natur ffynnu, a
- gall ymwelwyr greu atgofion parhaol.
Gallwch:
- ddysgu am y buddion a sut i wneud cais ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus, neu
- ddysgu mwy am y wobr ar wefan Gwobr y Faner Werdd.