Ynglŷn â Y Wenallt
Mae’r Wenallt (neu Coed y Wenallt) yn ardal o goetir hynafol lled naturiol tua’r gogledd o Gaerdydd, sydd wedi ei enwi yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r tir yn estyn i mewn i goetir arall tua’r gogledd orllewin: Cwm Nofydd, Gwarchodfa Natur Leol, Fforest Ganol, sy’n Safle arall o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Fforest Fawr.
Mae’r ardal yn adnabyddus yn lleol fel man hardd ac mae’n safle poblogaidd ar gyfer picnic yn yr haf. Yn y gwanwyn mae clychau’r gog a blodau eraill y gwanwyn ar daen trwy’r coetir.