Ysgol Farchogaeth Caerdydd

Ysgol Farchogaeth Caerdydd

A ninnau mewn 35 o barcdiroedd yng nghanol Caerdydd, rydym yn cynnig profiad marchogaeth cyflawn ar gyfer pob gallu, clwb merlod, marchogaeth ar gyfer yr anabl a llawer mwy.

Cyfleusterau

  • Ysgolion dan do ac awyr agored
  • Oriel wylio gyda seddau yn yr ysgol dan do
  • Stablau ar gyfer 47 o geffylau
  • Cwrs traws-gwlad sylfaenol
  • Cwrs rhwystrau sioe llawn
  • Opsiynau marchogaeth yn yr awyr agored
  • Toiledau Menywod/Dynion a Thoiled i’r Anabl gyda chawod
  • Maes parcio mawr
  • Staff ar y safle 24 awr y dydd

Beth sydd ar gael?

  • Cynigir pob agwedd ar farchogaeth a gofalu am geffyllau p’un ai a ydych yn farchog newydd neu profiadol.
  • Mae ein holl staff yn ddeiliaid cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain
  • Rydym yn ganolfan a gymeradwyir ar gyfer y Clwb Marchogaeth a’r Clwb Merlod.
  • Rydym yn ganolfan a gymeradwyir gan Gymdeithas Marchogaeth ar gyfer yr Anabl.
  • Rydym yn cynnig ‘reidiau ar ferlod’ ar y penwythnos rhwng 10am a 12.30pm ar gyfer plant 3 i 13 oed, am £7.60  Mae’r sesiynau hyn yn berffaith ar gyfer y sawl sy’n mentro arni am y tro cyntaf ac o ran meithrin diddordeb. Reidiau am tua 15  munud o hyd ar y llinyn ffrwyn arweiniol yw’r rhain a gynhelir yn yr awyr agored ar bob tywydd (felly gwisgwch ddilllad addas).
  • Ffoniwch ni i holi am ein dewisiadau Parti Pen-blwydd a Chadw Ceffylau.
  • Mae gennym derfyn pwysau o 12 stôn neu 76kg. (Wedi’ch gwisgo i reidio)

Archebu

  • Rhaid talu wrth archebu un ai dros y ffôn neu mewn person.
  • Mae gennym gyfnod canslo o 48 awr. Os ydych yn rhoi gwybod eich bod am canslo lai na 48 awr ymlaen llaw ni chynigir ad-daliad.
  • Mae talebau rhagdaledig ar gael (anrhegion perffaith!).

Reidiau ar Ferlod

Dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 12.30pm

£7.60 Plant rhwng 3 blwydd oed a 13 mlwydd oed

Rhaid trefnu o flaen llaw

Mae’r reidiau bob amser yn yr awyr agored felly gwisgwch ar gyfer y tywydd.

Gwersi Preifat

£32.65 am 30 munud a £45.65 am 60 munud.

Rhwng 9.00am a 5:00pm – dydd Mawrth i ddydd Gwener.

Lleoedd cyfyngedig ar gael ar benwythnosau.

Birthday vector created by freepik - www.freepik.com

Partïon pen-blwydd plant

Yn ysgol farchogaeth Caerdydd gallwn gynnig profiad parti Merlod hyfryd i’ch plant.

Gellir archebu partïon ar gyfer dydd Sadwrn neu ddydd Sul i blant 6+ oed. Cânt eu cynnal rhwng 12.30 pm a 3.00 pm.  (Cynghorwn gyrraedd yn gynnar er mwyn caniatáu amser i ffitio hetiau ac esgidiau.)

Mae ein partïon Merlod yn cael eu prisio ar £250 ar gyfer 10 o blant. Caiff pob parti ei oruchwylio gan ein staff hyfforddedig. Nid oes angen unrhyw brofiad marchogaeth.

Mae profiad y Parti Merlod yn dechrau gyda chwrdd â’n merlod hyfryd a helpu i’w cael yn barod i’w marchogaeth. Mae pob grŵp o blant yn reidio am hanner awr.  Bydd y plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â merlod er mwyn rhoi’r profiad parti cyflawn.

Bydd ein stabl parti arbennig ar gael i chi gael bwyd. Rhaid i’r teulu ddarparu hwn gan nad oes gennym drwydded fwyd.

Gofynnwch i’r plant wisgo trowsusau stretslyd a dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd. Rhaid i esgidiau fod yn bŵt neu esgid â gwadn fflat a sawdl bach. Dim sipiau ar y tu mewn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich parti, ffoniwch 029 2038 3908 i siarad â’n derbynnydd.

Birthday vector created by freepik - www.freepik.com

Gwybodaeth am y Gwersi

  • Dylai cleientiaid gyrraedd 20 munud cyn amser y wers a rhoi gwybod eu bod wedi cyrraedd i’r dderbynfa. (Mae hyn er mwyn rhoi ystyriaeth i draffig trwm ar yr adegau prysuraf oherwydd mae’n bosib na allwn ddarparu ar gyfer hwyrddyfodiaid ac ni fyddem yn cynnig ad-daliad).
  • Dim ond hetiau marchogaeth sy’n bodloni safonau diogelwch Cymdeithas Ceffylau Prydain gaiff eu gwisgo. Gallwch logi’r rhain yn ein derbynfa.
  • Rhaid gwisgo esgidiau priodol, sef esgidiau gyda gwadn briodol a sawdl fach.  Ni ddylai fod unrhyw fyclau na sipiau ar ochr fewnol yr esgidiau. Mae gennym fŵts y gallwch eu benthyca.
  • Rhaid talu am bob gwers wrth ei harchebu.
  • Mae staff bob amser wrth law i gynnig cymorth.
  • Fe’ch cynghorir i beidio â gwisgo esgidiau meddal neu agored ar ein iard ar bob adeg.
Pony club in action

Graddau Gwersi

Sut i ddod o hyd i ni

Caeau Pontcanna
Fields Park Road
Pontcanna
Caerdydd
CF5 2AX

029 2038 3908

CardiffRidingSchool@caerdydd.gov.uk

Ymweld â ni

Rydym ar gau ar ddydd Llun

Dydd Iau – dydd Gwener 9am tan 8pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul 9am – 4:30pm

Cynhelir gwersi preifat fel arfer yr ystod y dydd yn ystod yr wythnos waith gyda rhywfaint o gyfleoedd ar benwythnosau.

Cynhelir gwersi grŵp gan fwyaf gyda’r nos yn ystod yr wythnos waith ac yn ystod y dydd ar benwythnosau.

Top

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd